Juliette Adam
Awdures a ffeminist o Ffrainc oedd Juliette Adam née Lambert (ynganiad Ffrengig: [ʒyljɛt adɑ̃]; 4 Hydref 1836 - 23 Awst 1936) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, bywgraffydd, awdur ysgrifau a bardd. Ei nofel fwyaf boblogaidd yw Païenne (1883)
Juliette Adam | |
---|---|
Ffugenw | Juliette Lamber, Madame Adam, Mme La Messine, Comte Paul Vassili, J. La Messine |
Ganwyd | Juliette Lambert 4 Hydref 1836 Verberie |
Bu farw | 23 Awst 1936 Callian |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, perchennog salon, nofelydd, bywgraffydd, awdur ysgrifau, bardd, golygydd |
Priod | Edmond Adam, Alexis La Messine |
Gwobr/au | Prix Auguste-Furtado, Prix Jules-Favre, Prix d'Académie |
llofnod | |
Fe'i ganed yn Verberie, Oise, gogledd Ffrainc a bu farw yn Callian a'i chladdu ym Mynwent Père Lachaise, Paris. Bu'n briod i Edmond Adam ac yna i Alexis La Messine.[1][2][3][4][5][6]
Magwraeth a phriodas golygu
Cofnododd ei phlentyndod, anhapus yn Le roman de mon enfance et de ma jeunesse (Cym. Trans, Llundain ac Efrog Newydd, 1902) lle soniodd fod ei rhieni'n ffraeo drwy'r amser.[7] Ond yn Paradoxes d'un docteur allemand (cyhoeddwyd yn 1860), mae'n nodi ei fod yn credu mewn hawliau merched. [8]
Yn 1852, priododd â meddyg o'r enw La Messina, a chyhoeddodd ym 1858 ei Idées antiproudhoniennes sur l'amour, la femme et le mariage (Syniadau Antiproudhonian ar Gariad, Menyw a Phriodas), yn amddiffyn Daniel Stern (llysenw Marie d'Agoult) a George Sand.[7] Ar ôl marwolaeth ei gŵr cyntaf yn 1867, priododd Juliette ag Antoine Edmond Adam (1816-1877), swyddog uchel yn yr heddlu yn 1870, a ddaeth yn seneddwr yn ddiweddarach.
Llenyddiaeth golygu
Sefydlodd y Nouvelle Revue yn 1879, a olygodd am wyth mlynedd, ac a reolai tan 1899. Cyhoeddodd ysgrifau gan Paul Bourget, Pierre Loti, a Guy de Maupassant yn ogystal â nofel Octave Mirbeau, Le Calvaire.
Galwodd am hawl menywod i fod yn dystion mewn gweithredoedd cyhoeddus a phreifat, ac am yr hawl i fenywod priod i gymryd cynnyrch eu llafur a chael gwared arno fel y mynnent.[9]
Daeth yn gyfaill agos i Yuliana Glinka, a oedd yn ymwneud â theosophi a'r ocwlt.
Llyfryddiaeth ddethol golygu
- Idées antiproudhoniennes sur l’amour, la femme et le mariage, 1858
- Les provinciaux à Paris, yn Paris Guide 1868; cyfieithiad Saesneg: Paris for Outsiders 2016
- Laide, 1878
- Grecque, 1879
- Païenne, 1883
- Mes angoisses et nos luttes, Paris, A. Lemerre, 1907
- L'Angleterre en Egypte, Paris, 1922
Aelodaeth golygu
Bu'n aelod o Ligue de la Patrie Française am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau golygu
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Prix Auguste-Furtado (1920), Prix Jules-Favre (1917), Prix d'Académie (1927) .
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11888074t. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Nouveau Dictionnaire des auteurs de tous les temps et de tous les pays. tudalen: 12. cyfrol: 1. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://www.bartleby.com/library/bios/index10.html.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11888074t. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Nouveau Dictionnaire des auteurs de tous les temps et de tous les pays. tudalen: 12. cyfrol: 1. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11888074t. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Nouveau Dictionnaire des auteurs de tous les temps et de tous les pays. tudalen: 12. cyfrol: 1. "Juliette Adam". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Juliette Adam". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Juliette Adam". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Juliette Lamber".
- ↑ Dyddiad marw: Nouveau Dictionnaire des auteurs de tous les temps et de tous les pays. tudalen: 12. cyfrol: 1. "Juliette Adam". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Nouveau Dictionnaire des auteurs de tous les temps et de tous les pays. tudalen: 12. cyfrol: 1.
- ↑ 7.0 7.1 Chisholm 1911.
- ↑ Galwedigaeth: Nouveau Dictionnaire des auteurs de tous les temps et de tous les pays. tudalen: 12. cyfrol: 1. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Metz, Annie (Rhagfyr 2007). "Jeanne Schmahl et la loi sur le libre salaire de la femme". Bulletin du Archives du Féminisme (13). http://www.archivesdufeminisme.fr/ressources-en-ligne/articles-et-comptes-rendus/articles-historiques/metz-jeanne-schmahl-loi-libre-salaire-femme/. Adalwyd 2015-03-22.