Ffurf o farddoniaeth Swffi yw Kafi (Wrdw: کافی), â'i thardd yn nhalaith Sindh ym Mhacistan. Ymysg beirdd enwoca'r Kafi yw Bulleh Shah, Shah Abdul Latif Bhittai, a Sachal Sarmast.

Kafi
Enghraifft o'r canlynolgenre gerddorol Edit this on Wikidata
MathSufi music Edit this on Wikidata

Gall y term kafi hefyd gyfeirio at yr arddull o gerddoriaeth glasurol ysgafn sy'n defnyddio penillion o waith beirdd kafi megis Bulleh Shah a Shah Hussein. Mae elfen crefyddol gref i'r cerddi, sy'n au cysylltu ag urddau Swffïaidd yn Ne Asia. Mae'r arddull yn ymdebygu â Qawwali and Ghazal, ond dim ond un harmoniwm, un tabla, un dholak ac un llais a ddefnyddir.

Mae'r gantores Abida Parveen wedi codi ymwybyddiaeth o Kafi yng ngwledydd y gorllewin.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Bacistan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.