Kammersänger

anrhydedd i gantorion nodedig mewn opera a cherddoriaeth glasurol

Mae Kammersänger (gwryw) neu Kammersängerin (benyw), talfyriad Ks. neu KS, yn deitl anrhydeddus Almaenig ar gyfer cantorion nodedig mewn opera a cherddoriaeth glasurol. [1] Yn llythrennol mae'n golygu "canwr siambr". Yn hanesyddol, rhoddwyd y teitl gan dywysogion neu frenhinoedd, pan gafodd ei alw'n Hofkammersänger(in), lle mae hof yn cyfeirio at y llys brenhinol.

Kammersänger
Kammersängerin Hilde Zadek
Enghraifft o'r canlynolteitl anrhydeddus Edit this on Wikidata
Gwladwriaethyr Almaen, Sweden Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhoddir y teitl yn yr Almaen ac yn Awstria fel arfer ar argymhelliad sefydliadau cenedlaethol a lleol perthnasol. Yn Nwyrain yr Almaen, dyfarnodd rhai neuaddau cyngerdd yr anrhydedd.

Dyfarnwyr golygu

Awstria golygu

  • Österreichischer Kammersänger (gwryw) / Österreichische Kammersängerin (benyw)

Dyfernir yr anrhydedd gan Arlywydd Ffederal Awstria ar gynnig y Gweinidog Ffederal cyfrifol er 1971. [2]

Yr Almaen golygu

Kammersänger (gwryw) / Kammersängerin (benyw)

  • Berliner Kammersänger / Berliner Kammersängerin

Mae'r anrhydedd wedi'i roi gan Senedd Berlin er 1962. [3] [4]

  • Bayerischer Kammersänger / Bayerische Kammersängerin

Dyfernir yr anrhydedd gan Weinyddiaeth Diwylliant Bafaria er 1955 am gyflawniadau artistig rhagorol i unawdwyr yn Opera Taleithiol Bafaria, y Staatstheater am Gärtnerplatz a'r Staatstheater Nürnberg.[5] [6] Erbyn 2019, roedd mwy na 130 o artistiaid wedi eu hanrhydeddu. Y rhagofyniad yw o leiaf bum mlynedd o aelodaeth mewn ensemble mewn theatr daleithiol neu ymddangosiadau rheolaidd fel gwestai[7]

  • Hamburger Kammersänger / Hamburger Kammersängerin

Er 1961, mae'r teitl wedi'i roi gan Senedd Hamburg. [8] [9]

  • Sächsischer Kammersänger / Sächsische Kammersängerin

Mae'r anrhydedd wedi ei ddyfarnu i aelodau ensembles y Sächsische Staatsoper Dresden a'r Landesbühnen Sachsen er 1998. [10]

  • Baden-Württembergischer Kammersänger / Baden-Württembergische Kammersängerin

Sweden a Denmarc golygu

Y dynodiad cyfatebol yn Sweden yw Hovsångare (gwryw) neu Hovsångerska (benyw) ac yn Nenmarc Kongelige / Kammersangere.

Cyfeiriadau golygu

  1. Weinzierl, Cordula (2018). "Kammersänger". planet wissen. Cologne: Westdeutscher Rundfunk Köln. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-12-04. Cyrchwyd 23 May 2019.
  2. "Kammersänger(in) – Wien Geschichte Wiki". www.geschichtewiki.wien.gv.at.
  3. "Verwaltungsvorschriften über die Verleihung von Ehrentiteln an Bühnen- und Konzertkünstler/innen verlängert". berlin.de (yn Almaeneg). Berlin: Senatsverwaltung Berlin für Kultur und Europa und Kunst. 26 August 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-06-17. Cyrchwyd 1 Ebrill 2020.
  4. "Ehrentitel "Berliner Kammersänger" für Victor von Halem". www.berlin.de. 4 Ebrill 2016.
  5. "Gärtnerplatztheater-Solisten werden Kammersänger". MUSIK HEUTE. 18 Tachwedd 2019.
  6. "Schriftliche Anfrage: Vergabe von Ehrentiteln im Kulturbereich" (PDF). bayern.landtag.de (yn Almaeneg). Munich: Bayrischer Landtag. 24 Hydref 2014. Cyrchwyd 2 Mai 2020.
  7. "Auszeichnung für Bassbariton : Alex Esposito wird Bayerischer Kammersänger". BR-KLASSIK (yn Almaeneg). 29 Medi 2020. Cyrchwyd 14 Ionawr 2021.
  8. Kaiser, Daniel (20 December 2019). "Hamburger Senat ehrt Klaus Florian Vogt". ndr.de. Hamburg: Norddeutscher Rundfunk. Cyrchwyd 1 Ebrill 2020.
  9. Die Verfassung der Freien und Hansestadt Hamburg (yn Almaeneg). De Gruyter. 2016. ISBN 9783110880687.
  10. "REVOSax – VwV-Ehrentitel". www.revosax.sachsen.de.