Kate Williams Evans
Swffragét Cymreig oedd Kate Williams Evans (1 Hydref 1866 – 2 Chwefror 1961) sef yr unig ferch o Gymru i dderbyn Medal Ympryd (neu "streic newyn") Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (y WSPU). Golyga hyn iddi gael bwyd, ar ffurf hylif, wedi'i wthio i lawr ei chorn gwddw drwy dwmffat a pheipen - dull hynod o boenus a ddefnyddid am gyfnod yr adeg honno. Cyd-garcharor, a chyfaill oes iddi oedd y swffragét Dorothy Evans.
Kate Williams Evans | |
---|---|
Ganwyd | 1 Hydref 1866 Llansanffraid-ym-Mechain |
Bu farw | 2 Chwefror 1961 |
Man preswyl | Llansanffraid-ym-Mechain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | swffragét, gwraig tŷ |
Gwobr/au | Medal y Swffragét |
Fe'i ganed yn Llansanffraid-ym-Mechain, Trefaldwyn, Powys yn 1866 a threuliodd ddiwedd ei hoes yn y ffermdy lle'i ganed ("Bod Gwylim"), gyda'i chwaer Margaret.[1][2][3]
William Dorsett Evans, ffermwr llwyddiannus oedd ei thad, ond ni wyddom enw'i mam. Prynnodd ei thad Bod Gwylim yn y 1870au ac roedd ganddi dair chwaer ac un brawd. Dim ond am gyfnod byr y bu'n weithgar gydag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, mae'n debyg.
Daeth i amlygrwydd yng Ngorffennaf 2018 pan werthwyd rhai o'r phethau personol mewn arwerthiant am £48,640, gan gynnwys lluniau ohoni a'i Medal Ympryd.[4] Y prynnwr llwyddiannus oedd Amgueddfa Cymru.
Treuliodd ei hugeiniau ym Mharis, ac yno y clywodd am frwydr y merched yn Lloegr dros etholfraint, sef am yr hawl i fenywod bleidleisio. Clywodd am aelodau o'r Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (yr WSPU) a'u hymgyrchoedd lled-filwriaethus. Ceir cofnod nad oedd ei rhieni'n cytuno gyda hi yn hyn o beth, sy'n esbonio, efallai, pam mai am gyfnod byr iawn y bu'n gweithredu.
Yr ymgyrchydd golygu
Yn 1909 rhoddodd ei chwaer Marged ("Meg") anrheg iddi: llyfr yn llawn llofnodion swffragetiaid ac ymgyrchwyr eraill a gydymdeimlai â hi, pobl fel Emily Wilding-Davison ac un o'r chwiorydd Pankhurst.
Yn 1911 roedd yn byw, neu aros, mewn tŷ yn Maida Hill West yn Paddington, Llundain a cheir cofnod yn yr un flwyddyn iddi gyfrannu'n ariannol i goffrau'r WSPU.
Arestio golygu
Ar 4 Mawrth 1912 cafodd ei harestio yn Llundain am "ddifrod maleisus", sef torri ffenest un o swyddfeydd y Llywodraeth, ynghŷd â nifer eraill o ferched. Fe'i dedfrydwyd i ddau fis o waith caled yng Ngharchar Holloway, er mai hwn oedd ei throsedd gyntaf. Pan ddaeth o'r carchar, wedi 54 diwrnod, cafodd aros yn nhŷ cyd-garcharor iddi, sef Sarah Benett, a cheir llythyr gan Sarah at ei morwyn yn dweud wrth edrych ar ôl Kate "fel petaech yn edrych ar ôl person claf iawn".[5]
Yn Holloway ysgrifennodd nifer o gerddi, a gyhoeddwyd mewn blodeugerdd gyda'r teitl The Holloway Jingles.
Yn 1913 anerchodd gyfarfod yn Llansanffraid-ym-Mechain mewn cyfarfod o'r Women’s Freedom League (WFL), lle eglurodd y gwahaniaeth rhwng y Gynghrair a'r WSPU. Un eglurhad posibl am hyn yw iddi bellhau oddi wrth y WSPU, efallai gan eu bod yn rhy filwriaethus iddi, a chlosio at y Gynghrair y Menywod Rhydd. Ychydig wedyn, mae papur y WLF, sef The Vote yn ei disgrifio fel a brilliant and very charming hostess, who will go to great lengths for the cause.[6]
Aelodaeth golygu
Bu'n aelod o'r Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd. [7]
Anrhydeddau golygu
- Medal Ympryd Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (y WSPU)
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Cyffredinol: https://museum.wales/collections/online/object/85c356f4-2626-3622-8f2c-717996f7f9a2/Medal-suffragette/.
- ↑ Dyddiad geni: https://womenslibrary.org.uk/2018/09/21/kate-evans-and-kate-evans/. dyddiad cyrchiad: 24 Mai 2019.
- ↑ Man geni: https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-44953654. dyddiad cyrchiad: 24 Mai 2019.
- ↑ bbc.co.uk; adalwyd 24 Gorffennaf 2019.
- ↑ shropshirestar.com; adalwyd 24 Mai 2019.
- ↑ womenslibrary.org.uk; adalwyd 24 Mai 2019.
- ↑ Anrhydeddau: https://museum.wales/collections/online/object/85c356f4-2626-3622-8f2c-717996f7f9a2/Medal-suffragette/.