Rhamant Saesneg Canol yw King Horn sy'n dyddio oddeutu 1225. Dyma'r rhamant fydryddol hynaf yn Saesneg Canol, a chanddi 1,500 o linellau. Traddodir hanes y Tywysog Horn, mab y brenin a'r frenhines yn nheyrnas Suddene, a gaiff ei alltudio yn sgil goresgyniad y Saraseniaid. Mae'n cwympo mewn cariad â Rymenhild, merch brenin Westernesse. Cawsant eu bradychu gan Fikenhild, cymar i Horn, sy'n priodi Rymenhild. Caiff Horn ei alltudio i Iwerddon. Wedi cyfnod o anturiaethau gwrol yn Iwerddon, mae Horn yn dychwelyd i Westernesse yn gudd i gwrdd â Rymenhild. Mae'n adennill teyrnas Suddene, yn lladd Fikenhild, ac yn priodi â Rymenhild.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 541.