Dinas hynafol yng ngogledd-orllewin Syria ar y Môr Canoldir sy'n borthladd pwysicaf y wlad honno yw Latakia neu Latakiyah (Arabeg, اللاذقية, Al-Ladhiqiyah; Groeg, Λαοδικεία, trawslythrenir fel Laodicea, Laodikeia neu Laodiceia, Twrceg, Lazkiye; Lladin, Laodicea ad Mare). Mae'n brifddinas talaith Latakia, gyda phoblogaeth o tua hanner miliwn (amcangyfrif). Gorwedd ar lan y Môr Canoldir tua 120 km i'r gorllewin o ddinas Aleppo, tua hanner ffordd rhwng Tartus i'r de ac Antakya i'r gogledd, yn Nhwrci. Ceir bryniau isel tu ôl i'r ddinas.

Latakia
Mathdinas, dinas fawr, populated place in Syria Edit this on Wikidata
Poblogaeth700,000 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Sousse, Mersin, Constanța, Rimini, Aden, Corfu, Genova, Famagusta, Gazimağusa Municipality Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLattakia Subdistrict Edit this on Wikidata
GwladBaner Syria Syria
Arwynebedd58 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr0 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.5236°N 35.7917°E Edit this on Wikidata
Map
Porth Septimius Severus yn Latakia

Mae gan y ddinas hanes hir. Cyfeiria Strabo ati yn ei lyfr Daearyddiaeth (xvi.2.9 et seq.) fel lle cryf gyda harbwr ardderchog, a'r tir o'i chwmpas yn cynhyrchu gwin a allforid i Alexandria. Ar wahanol gyfnodau bu'n gartref i'r Ffeniciaid, a gododd ddinas Ramitha yma, i'r Groegiaid fel dinas Leuke Akte ('penrhyn gwyn'), i'r Seleuciaid ac i'r Rhufeiniaid. Cafodd ei ailgodi a'i ailenwi yn Laodicea gan Seleucus I Nicator, ar ôl ei fam. Cyfeiria Josephus at y bont dŵr a godwyd yma gan Herod Fawr.

Eginyn erthygl sydd uchod am Syria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato