Bardd yn yr iaith Saesneg Canol a flodeuai yn y 12g oedd Layamon, Lawamon neu Laghamon sy'n nodedig am ysgrifennu cronicl a elwir Brut Layamon, cerdd sy'n cynnwys y fersiwn gyntaf yn Saesneg o Chwedl Arthur.

Layamon
Ganwydc. 1200 Edit this on Wikidata
Bu farw13 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, offeiriad Edit this on Wikidata

Yn ôl bywgraffiad ei hun ar ddechrau'r Brut, offeiriad yn Ernley (Areley Kings), pentref ar lannau Afon Hafren yn Swydd Gaerwrangon, oedd Layamon. Dyn hyddysg, darllenwr brwd o hen lyfrau, a chasglwr chwedlau ydoedd.[1]

Un o'r enghreifftiau cynharaf o lenyddiaeth Saesneg Canol ydy'r Brut, a ysgrifennwyd mewn oes pan oedd Lladin ac Eingl-Normaneg yn brif ieithoedd llenyddol Lloegr. Ffynhonnell Layamon oedd y Roman de Brut gan Wace, gwaith Normaneg a oedd yn seiliedig ar ffug-hanes iaith Ladin y Cymro Sieffre o Fynwy, yr Historia Regum Britanniae. Ymddengys ychwanegiadau o ffynonellau eraill yn Brut Layamon, a honnir gan y bardd eu bod yn tarddu o waith Beda, Sant Alban a Sant Awstin, er nad yw hynny'n wir. Dyma'r sôn cyntaf hefyd o'r brenhinoedd Leir a Cymbeline yn llenyddiaeth Saesneg.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Layamon" yn Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 29 Mehefin 2019.
  2. Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 564–65.

Darllen pellach golygu