Bwrdeistref yng ngogledd Bizkaia yng Ngwlad y Basg yw Leioa, ar ochr dde aber afon Ibaizabal. Wedi'i sefydlu ym 1526, mae Leioa bellach yn gartref i reithoriaeth Prifysgol Gwlad y Basg a phencadlys campws Bizkaia. Mae ganddi 8.6 km2 o arwynebedd, ac yn 2016 roedd 30.793 o drigolion.

Leioa
Mathbwrdeistref Sbaen Edit this on Wikidata
Poblogaeth32,491 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1526 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMari Carmen Urbieta Gonzalez Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Basgeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBilboaldea Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad y Basg Gwlad y Basg
Baner Sbaen Sbaen
Arwynebedd8.36 ±0.01 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr30 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGetxo, Erandio, Sestao, Portugalete Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.3289°N 2.9847°W Edit this on Wikidata
Cod post48940 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
mayor of Lejona Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMari Carmen Urbieta Gonzalez Edit this on Wikidata
Map

Enw golygu

Ym 1979, gosododd cyngor y ddinas yr enw Basgeg Leioa fel unig enw swyddogol y fwrdeistref - tan hynny "Lejona" oedd yr enw - fel y gwnaeth llawer o fwrdeistrefi eraill yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg.

Ffurf wreiddiol lawn yr enw fuasai *Leiona ac oddi yno daw'r enw Sbaeneg Lejona, a ysgrifennwyd yn wreiddiol fel Lexona, Leioa yn y Fasgeg, fel gyda Lujua a Loiu, enw tref arall.

Yn yr un modd, yn hanes diacronig a seineg hanesyddol y Fasgeg, fod colli’r n rhwng llafariaid yn duedd naturiol ac fe’i canfyddwn mewn amryw eiriau benthyg Lladin ac mewn enwau lleoedd: katea (o catena ), bolua (o molinum); Buia (Bujana), Galdakao (Galdácano), Lemoa (Lemona), Lemoiz (Lemóniz) a Sopela (Sopelana).

Daearyddiaeth golygu

Mae'r dref yn gymharol wastad, dim ond ychydig o fryniau sy'n cyrraedd 100 metr. Kurkudi (126 m), Bolunburu ac Ikea (mynydd) yw'r lleoedd uchaf yn y fwrdeistref [1].

Trefi cyfagos golygu

Mae'n ffinio ag Erandio i'r gorllewin, Getxo i'r dwyrain, ac afon Ibaizabal i'r de. Yr ochr arall i afon Ibaizabal, mae'n ffinio â Sestao. Mae Portugalete gyferbyn â Getxo yr ochr arall i afon Ibaizabal.

Er nad yw ond ychydig o fetrau i ffwrdd, nid yw Leioa'n rhannu ffin â Berango[2].

Economi golygu

Y prif sector economi'r dref yw gwasanaethau. Mae hefyd sawl math o ddiwydiant sydd wedi'u datblygu dros y blynyddoedd: dur, cemeg, mecaneg, gwydr a'r diwydiant bwyd.

Isadeiledd golygu

Cludiant golygu

 
Mae ffordd BI-637, rhodfa La Avanzada / Iparragirre, yn croesi Leioa yn y canol, sawl metr o dan y ddaear.

Mae Leioa, rhwng ardaloedd poblog Getxo a Bilbao, wedi dod yn dramwyfa i filoedd o geir bob dydd. Mae'r prif lwybrau'n gyfochrog ag afon Ibaizabal, yn bennaf oll ffordd BI-637, sef rhodfa La Avanzada / Iparragirre. Mae llawer o geir yn mynd heibio'r ffordd sy'n rhedeg o Gampws Leioa-Erandio EHU a heibio Ibaizabal bob dydd, ond BI-637 yw'r ffordd brysuraf yng Ngwlad y Basg ers amser maith. Llwybr arall yw'r un sy'n mynd o'r orsaf metro i Gampws Leioa-Erandio Prifysgol Gwlad y Basg.

Ar un adeg roedd cynllun i osod gwasanaeth tramffordd yn Leioa, ac adeiladwyd neuaddau i storio'r trenau, ond yn y diwedd, sefydlwyd gwasanaeth fysiau o'r enw Lejoan, yn ychwanegol at wasanaeth Bizkaibus.

Metro golygu

Mae lein cyntaf metro Bilbao yn mynd trwy Leioa, gyda'r gorsafoedd canlynol yn y fwrdeistref:

  • Leioa
  • Lamia

Bysiau golygu

Mae 18 o wasanaethau dinesig Bizkaibus yn croesi'r fwrdeistref.

Diwylliant golygu

Iaith golygu

 
Y Korrika yn Leioa yn 2024

Mae tafodiaith Leioa ( "Leyoáko berbeté") yn amrywiad ar y is-dafodiaith Basgeg Gogledd Bizkaia. Mae'n pontio rhwng amrywiaethau Uribe Kosta a Txorierri, ac yn debyg i rai Getxo a Berango.[3]

Adeiladau nodedig golygu

 
Palas Artatza
  • Palas Artatza
  • Palas Mendibile
  • Capel Ein Harglwyddes o Ondiz
  • Capel San Bartolome
  • Capel Santi Mami

Enwogion golygu

Cyfeiriadau golygu

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu