Roedd Elizabeth Ann (Lillie) Goodisson (cynt Evans née Price) (bedyddiwyd 27 Ebrill, 1859[1]10 Ionawr, 1947) yn nyrs Gymreig. Roedd yn hyrwyddwr ewgeneg a hylendid hiliol a daeth hi'n arloeswr ym maes iechyd gwenerol a chynllunio teuluol yn Ne Cymru Newydd.[2]

Lillie Goodisson
GanwydEbrill 1859 Edit this on Wikidata
Caergybi Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd27 Ebrill 1859 Edit this on Wikidata
Bu farw10 Ionawr 1947 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner Awstralia Awstralia
Galwedigaethnyrs Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Lillie Price yng Nghaergybi, yn blentyn i John Richard Price, meddyg a fferyllydd, ac Frances Elizabeth, (née Roberts). Cafodd ei bedyddio yn Eglwys Sant Cybi, Caergybi ar 27 Ebrill 1859, a gan fod cyfrifiad 1861 yn rhoi ei hoedran yn 2 flwydd, mae'n debyg ei bod wedi ei geni yn yr un flwyddyn.[3]

Hyfforddwyd Price i fod yn nyrs yn Llundain, lle cyfarfu â'r Dr Lawford David Evans, meddyg Cymreig yn Llundain, oedd yn hanu o Abertawe. Priododd y ddau ac ymfudasant i Auckland, Seland Newydd, lle ganwyd eu dau blentyn ym 1881 a 1883. Erbyn 1895 roedd y teulu wedi ymfudo eto i dalaith, Victoria, Awstralia. Ym 1897 sefydlodd Dr a Nyrs Evans ysbyty preifat Myrnong yn St Kilda, Victoria. Bu farw Dr Evans ym 1903. Ym 1904 priododd Evans ei ail ŵr, Albert Elliot Goodisson, rheolwr busnes. Symudodd hi a'i phlant i'w gartref ef yn Goodisson, Gorllewin Awstralia. Bu farw Albert Goodisson ym 1914 mewn ysbyty meddwl lle'r oedd o'n cael ei drin am Led Barlys Cyffredinol yr Orffwyll (paresis cyffredinol). Mae paresis yn gyflwr organig sy'n effeithio'r ymennydd a oedd yn cael ei drin fel salwch meddwl ar y pryd. Mae paresis cyffredinol yn datblygu fel adwaith i'r clefyd gwenerol syffilis.[4]

Gyrfa golygu

Ychydig ar ôl i Goodisson dod yn weddw am yr ail dro ymunodd Awstralia, fel rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig, a'r Rhyfel byd Cyntaf. I gefnogi achos y rhyfel bu Goodisson yn weithgar gyda nifer o achosion gwladgarol. Daeth yn ysgrifennydd adran menywod Plaid Ryddfrydol y Bobl, Cymdeithas Amddiffyn Masnach yr Ymerodraeth adran menywod Cynghrair Diogelu Diwydiannau Awstralia ac amryw achosion gwladgarol eraill.[2] Wedi'r rhyfel benthycodd arian gan ei chyfeilles Ivy Brookes,[5] merch ail brif weinidog Awstralia, a sefydlodd llyfrgell yn Elwood, Melbourne. Ni fu'r fenter yn llwyddiannus a daeth i ben ym 1924.

Symudodd Goodisson i Sydney i fod gyda'i merch ym 1926. Ymunodd â Chynghrair Diwygio'r Merched a gyda Ruby Rich, Marion Louisa Piddington ac Anna Roberts[6] sefydlodd Y Gymdeithas Gwella Hiliol, a ddaeth yn ddiweddarach (1928) yn Gymdeithas Hylendid Hiliol De Cymru Newydd.[7] Roedd y gymdeithas yn ymwneud â hyrwyddo addysg rhyw, atal a dileu clefyd gwenerol ac addysgu'r cyhoedd mewn ewgeneg.[8] Dethol nodweddion etifeddol dymunol mewn bodau dynol i wella cenedlaethau'r dyfodol yw ewgeneg.[9] Gwasanaethodd Goodisson fel ysgrifennydd cyffredinol y gymdeithas. Bu’r gymdeithas yn eiriol dros fridio detholus cenedlaethau’r dyfodol ar gyfer dileu clefydau etifeddol, a diffygion corfforol. Roedd y gymdeithas am sicrhau nad oedd yr hil wen yn cael ei "lygru" trwy gyfathrach a hiliau "is" a bu'n ymgyrchu i sterileiddio’r rhai â nam meddyliol ac i gyflwyno archwiliadau iechyd cyn briodasol. Er i Goodisson ymgyrchu dros nodau ewgeneg ei chymdeithas, ei phrif ddiddordebau oedd atal cenhedlu a gwleidyddiaeth. Y sbardun tebygol ar gyfer ei diddordebau ymgyrchu oedd marwolaeth ei ail ŵr o haint wenerol.

Ym 1932 safodd Goodisson, heb lwyddiant, fel ymgeisydd y Blaid Diwygio Gymdeithasol etholaeth Newcastle ar gyfer Senedd Awstralia. Ym 1933 sefydlodd Gymdeithas Hylendid Hiliol glinig rheoli cenhedlu yn Sydney a ddisgrifiodd Goodisson fel y cyntaf yn Awstralia; fodd bynnag, roedd Piddington wedi sefydlu clinig rheoli cenhedlu ym Melbourne ddwy flynedd ynghynt. Roedd y clinig yn gwasanaethu menywod priod yn unig, gan ddarparu diafframau fel na fyddai beichiogrwydd nas dymunid yn cael ei derfynu gan erthyliad anghyfreithlon. Roedd gweithgareddau'r clinig yn ddadleuol; derbyniodd gymorthdaliadau'r llywodraeth dim ond er mwyn iddynt gael eu tynnu'n ôl. Arhosodd Goodisson yn weithgar yn y gymdeithas hyd ei marwolaeth ym 1947; fodd bynnag, gostyngwyd gweithgareddau'r sefydliad yn fawr yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac ni wnaethant adennill momentwm tan y 1960au. Ym 1960 ailenwyd y gymdeithas yn Gymdeithas Cynllunio Deuluol Awstralia.[6]

Roedd Goodisson hefyd yn aelod gweithgar o Gyngor Cenedlaethol Menywod De Cymru Newydd, Cymdeithas Cymorth Teithwyr, Cynghrair Ffilm Dda De Cymru Newydd, Wythnos Iechyd Sydney a'r Cyngor Hylendid Meddwl.

Marwolaeth golygu

Bu farw yn 87 mlwydd oed yn Cremorne Point ger Sydney a chafodd ei chorff ei amlosgi.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Family Search, Wales Births and Baptisms, 1541-1907 adalwyd 5 Mai 2021
  2. 2.0 2.1 2.2 Foley, Meredith (1983). Meredith Foley, 'Goodisson, Lillie Elizabeth (1860–1947)', Australian Dictionary of Biography. 9. National Centre of Biography, Australian National University.
  3. Yr Archif Genedlaethol; Cyfrifiad 1861 Caergybi RG9/4372; Ffolio: 25; Tudalen: 2
  4. Swain, Kelley (2018-09-01). "‘Extraordinarily arduous and fraught with danger’: syphilis, Salvarsan, and general paresis of the insane" (yn English). The Lancet Psychiatry 5 (9): 702–703. doi:10.1016/S2215-0366(18)30221-9. ISSN 2215-0366. PMID 29866584. https://www.thelancet.com/journals/lanpsy/article/PIIS2215-0366(18)30221-9/abstract.
  5. Alison Patrick, 'Brookes, Ivy (1883–1970)', Australian Dictionary of Biography, National Centre of Biography, Australian National University adalwyd 5 Mai 2021
  6. 6.0 6.1 "The pill - and other battles fought and won". The Sydney Morning Herald (yn Saesneg). 2006-11-20. Cyrchwyd 2021-05-05.
  7. FPA Health. 2 Tachwedd 2006.80 years of Family Planning, Datganiad i'r wasg. Adalwyd 5 Mai 2021
  8. Wyndham, D. H. 1996. Eugenics in Australia: Striving for National Fitness, thesis PhD, Prifysgol Sydney
  9. "eugenics | Description, History, & Modern Eugenics". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-05.