Lisa Otto

actores

Roedd Lisa Otto (14 Tachwedd 1919 - 18 Medi 2013) yn Soprano opera Almaenig. Roedd hi'n yn arbennig o gysylltiedig â rolau soubrette a coloratwra ysgafn.[1]

Lisa Otto
Ganwyd14 Tachwedd 1919 Edit this on Wikidata
Dresden Edit this on Wikidata
Bu farw18 Medi 2013 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethcanwr opera, actor ffilm Edit this on Wikidata
Math o laisSoubrette Edit this on Wikidata

Yn enedigol o Dresden, bu’n astudio yno yn y Musikhochschule gyda Susanne Steinmetz-Prée. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf, fel Sophie yn Der Rosenkavalier, ym 1941 i Gwmni Opera Silesia yn Beuthen, lle y bu tan 1944. Yna canodd yn Nürnberg (1944-45), Dresden (1945-51), ac ymunodd ag Opera Taleithiol Berlin ym 1951, lle’r oedd i aros tan 1985.[2]

Mae hi'n fwyaf adnabyddus am rolau soubrette fel Blondchen yn Die Entführung aus dem Serail, Susanna yn Le nozze di Figaro, Zerlina yn Don Giovanni, Despina yn Così fan tutte, a Papagena yn Y Ffliwt Hud y cyfan yn operâu gan Mozart. Ymhlith y rolau nodedig eraill oedd Y Fenyw Gyntaf yn Y Ffliwt Hud, Marzelline yn Fidelio, Annchen yn Der Freischütz, Zerline yn Fra Diavolo, Echo yn Ariadne auf Naxos, ac ati. Cymerodd ran yn y gwaith o greu rôl y teitl yn Alkmene gan Giselher Klebe ac Der junge Lord Hans Werner Henze.[3] Ymddangosodd yn westai yn Opera Taleithiol Fienna, Gŵyl Salzburg, La Scala ym Milan, Opera Paris, a Gŵyl Opera Glyndebourne.[4] Gwnaeth deithiau o amgylch yr Unol Daleithiau, De America, a Japan. Fe’i gwnaed yn Kammersängerin (teitl anrhydeddus i gantorion nodedig ym myd opera a cherddoriaeth glasurol mewn gwledydd Almaeneg eu hiaith.[5]) ym 1963.[6]

Bywyd personol a marwolaeth golygu

Roedd Otto yn briod â Dr Albert Bind.

Bu farw yn Berlin ar 18 Medi 2013, yn 93 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Lisa Otto (Soprano) - Short Biography". www.bach-cantatas.com. Cyrchwyd 2021-02-28.
  2. Lisa Otto verstorben, Ehrenmitglied dêr Deutschen Oper Berlin
  3. "OPERISSIMO - Otto, Lisa". web.operissimo.com. Cyrchwyd 2021-02-28.
  4. "Lisa Otto". Glyndebourne. Cyrchwyd 2021-02-28.
  5. "Opera Terminology Flashcards". www.flashcardmachine.com. Cyrchwyd 2021-02-28.
  6. "Otto, Lisa | Encyclopedia.com". www.encyclopedia.com. Cyrchwyd 2021-02-28.