Llabedlys y bonion

rhywogaeth o fyd planhigion: un o lysiau’r afu
Llabedlys y bonion
Jamesoniella autumnalis

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Adelanthaceae
Genws: Jamesoniella
Rhywogaeth: J. autumnalis
Enw deuenwol
Jamesoniella autumnalis

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Llabedlys y bonion (enw gwyddonol: Jamesoniella autumnalis; enw Saesneg: autumn flapwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod ar arfordir gorllewinol Cymru, yr Alban ac Iwerddon (mewn un lle) ac yma ac acw yn ne Lloegr.

Llysiau'r afu golygu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma. Mae gan y llysiau afu hwn, sydd o faint canolig goesynnau'n 0.5–2.5 mm o led, dail crwn (tua 1 mm o led a hir) ac fel arfer mae'n oren, ond weithiau'n wyrdd golau neu hyd yn oed yn frowngoch. Yn aml, gellir ei adnabod oherwydd ei gynefin: boncyffion neu goed.[2]

  Safonwyd yr enw Llabedlys y bonion gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau golygu

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.
  2. rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 20 Awst 2019.