Llanmadog

plwyf eglwysig hanesyddol yng Nghymru

Pentref bychan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Llangynydd, Llanmadog a Cheriton, Sir Abertawe, Cymru, yw Llanmadog[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Seisnigiad: Llanmadoc).[2] Gorwedd y pentref ar ben gorllewinol penrhyn Gŵyr, tua 12 milltir i'r gorllewin o ddinas Abertawe. Y pentref agosaf yw Cheriton ac mae'r unig ffordd i Lanmadog yn rhedeg trwy'r pentref hwnnw.

Llanmadog
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.617°N 4.253°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS441933 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMike Hedges (Llafur)
AS/auCarolyn Harris (Llafur)
Map

Llai na filltir i'r gorllewin ceir Bae Broughton gyda'i thraeth tywodlyd eang.

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Llanmadog gan Sant Madog, brawd Sant Cynydd, sefydlwr Llangynydd a cheir croes Geltaidd gyntefig ar faen yn y llan. Darganfuwyd carreg goffa Gristnogol gynnar yn y plwyf gyda'r arysgrif Ladin hon arno:

VECTI FILIVS GVAN HIC IACIT
Gorwedd Vecti fab Guan yma[3]

Genynnau pobl leol golygu

Mae genynnau'r trigolion lleol yn debyg iawn i drigolion Médoc, Bordeaux ac mae'n bosib fod y gair Madog yn llawer hŷn na Sant Madog, ac yn mynd yn ôl i'r dyddiau pan symudodd llwythi o ardal Bordeaux i'r ardal yma.

Gweler hefyd golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 5 Rhagfyr 2021
  3. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000), tud. 379.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ddinas a Sir Abertawe. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato