Llawysgrif goliwiedig

Testun ysgrifenedig sydd wedi ei addurno ag aur neu arian, lliwiau llachar, dyluniadau cymhleth, neu fân-ddarluniau[1] yw llawysgrif goliwiedig neu lawysgrif addurnedig.

Rhan o lawysgrif Cyfreithiau Hywel o'r 14g, sydd yn cynnwys darluniad o angel ac enghraifft o flaenlythyren.

Cafwyd ffurfiau cynnar ar lawysgrifau goliwiedig mewn gwareiddiadau'r Henfyd. Addurnwyd brwynbapurau yn yr Hen Aifft gyda lluniau bychain, naill ai wedi eu hamlinellu mewn du neu ddistempro mewn lliwiau cynradd. Ni arferwyd y technegau hyn gan y Groegiaid na'r Rhufeiniaid. Dyddia'r llawysgrifau addurnedig hynaf yn Ewrop o gyfnod yr Henfyd Diweddar, gan gynnwys y "Vergilius Vaticanus" a gynhyrchwyd yn Rhufain tua'r flwyddyn 400, sydd yn cynnwys rhannau o'r Aenid a'r Georgica gan Fyrsil. Esiampl gynnar arall yw'r llawysgrif o De materia medica gan Dioscorides sydd yn dyddio o ddechrau'r 6g yng Nghaergystennin, sydd yn cynnwys mwy na 400 o luniau o anifeiliaid a phlanhigion mewn arddull nodweddiadol o gelf yr Ymerodraeth Fysantaidd.

Cyflwynwyd yr arfer o addurno llythrennau blaen yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar, yn y dechrau o'r un maint a lliw â gweddill y testun. Mae llawysgrifau Syrieg o'r 7g yn defnyddio patrymau neu ymylon i addurno'r llythrennau blaen. Yn yr 8g a'r 9g darluniwyd blaenlythrennau hynod o fawr, weithiau cymaint â 24 modfedd o hyd. Erbyn yr Oesoedd Canol Uchel, câi llythrennau eu nodweddu gan ffigurau, yn aml mewn arddull y grotésg, megis dynion ac anifeiliaid. Mae blaenlythrennau mewn llawysgrifau'r 12g yn aml yn cymysgu sypiau o ddail a blodau â bodau dynol, adar, pysgod, a chreaduriaid eraill. Datblygodd hefyd yr arfer o ddarlunio ymylon di-dor, deilblethau, cerfaddurnau, mân-bortreadau, coloffonau, ôl-addurnau, ac ati.

Datblygodd sawl traddodiad rhanbarthol o oliwio llawysgrifau ar draws Ewrop. Gellir cydnabod llawysgrifau o Loegr a Ffrainc gan eu lliwiau ysgafn, glas a gwyrdd yn bennaf, a llawysgrifau o Fflandrys gan eu lluniad trwm ac arlliwiau tywyll. Yn yr Eidal a Sbaen, câi'r patrymau cymhleth o blanhigion ac anifeiliaid eu paentio mewn aur a lliwiau gloyw. Mae llawysgrifau goliwiedig o Iwerddon yn nodweddiadol am eu ffigurau anghelfydd, ysgrifen fawr a thrwchus, blaenlythrennau helaeth wedi eu hamgylchynu gan smotiau, llinellau troellog, a phatrymau brithaddurnedig a phlethog. Mae'r enghreifftiau enwocaf o'r traddodiad Gwyddelig yn cynnwys Llyfr Kells a Llyfr Durham.

Pallodd y traddodiad yn sgil dyfeisio'r wasg argraffu yng nghanol y 15g, a bu'r arfer o oliwio llawysgrifau ar ei therfyn erbyn diwedd yr 16g.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Illuminated manuscript. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Medi 2021.