Llindag y geg (candidiasis y geg) Mae gan bob unigolyn lindag yn eu ceg. Mae'n gyffredin mewn babanod dan 2 flwydd oed. Mae'n haint y gellir ei drosglwyddo i unigolion eraill.[1]

Llindag y geg
Enghraifft o'r canlynolclefyd heintus, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathcandidïasis, Briwiau'r ceg, stomatomycosis, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r llindag yn haint burum a achosir gan y rhywogaeth Candida albicans o ffwng. Mae swm bach o'r Candida'n digwydd yn naturiol mewn rhannau o'r corff sy'n wlyb ac yn gynnes, yn bennaf yn yr organau cenhedlu a'r geg. Mewn sefyllfaoedd arferol nid yw'n achosi problem gan fod y system imiwnedd a'r bacteria yn y corff yn ei reoli. Weithiau mae'r rheolaeth hon ym methu gan beri i'r ffwng luosi (tyfu) gan achosi haint.

Ni ystyrir llindag yn gyffredinol fel haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI), gan fod gan y rhan fwyaf o bobl y ffwng yn eu cyrff yn barod. Fodd bynnag, gellir ei drosglwyddo drwy gyfathrach rywiol gan y gellir ei drosglwyddo o un partner i'r llall. Mae gan wrywod sy'n anweithredol yn rhywiol yr haint hwn yn aml.

Mae heintiau llindag yn digwydd yn y geg neu'r organau cenhedlu. Mae'r wain yn amgylchedd da i'r ffwng, felly mae menywod yn cael haint llindag yn eithaf aml. Fodd bynnag, gall dynion ddatblygu llindag hefyd.

Symptomau golygu

  • Pan dynnir dannedd gosod, gellid gweld man coch ble roedd y dannedd gosod.
  • Mewn cleifion heb ddannedd gosod, ac mewn babanod, mae smotiau gwyn ar y geg a'r tafod yn nodweddiadol. Gall y rhain gysylltu â'i gilydd i ffurfio smotiau mawr neu blaciau a gallant fod yn felyn neu’n lliw hufen yn hytrach na gwyn. Pan sychir y rhain, gall y meinwe gwaelodol fod yn goch ac yn amrwd.
  • Ar ôl gwrthfiotigau neu steroidau, mae'n fwy cyffredin i'r mannau claf ymddangos yn goch ac yn llidus.
  • Efallai y ceir hefyd mannau coch llidus yng nghornel y gwefusau a elwir yn cheilitis onglog neu'n stomatitis onglog. Mae llawer o heintiau llindag y geg ysgafn yn ddi-boen, er y gall y cyflwr weithiau fynd yn eithaf llidus.
  • Gall babanod glafoerio poer neu wrthod bwyta'n iawn oherwydd y dolur.

Diagnosis golygu

Mae'r diagnosis yn gyffredinol yn seiliedig ar y symptomau. Mewn achosion mwy dyfalbarhaol o lindag gweiniol a llindag y pidyn gallai fod angen profi sampl neu swab.

Triniaeth golygu

Mae'r triniaethau ar gyfer llindag yn cynnwys cymryd neu roi moddion gwrthffwngaidd. Gall y rhain fod yn losin ar gyfer llindag y geg, moddion a gymerir, hufenau neu besarïau gweiniol ar gyfer llindag yr organau cenhedlu. Mae gan lawer o'r cyfryw foddion strwythur cemegol cyffredin a ddynodir gan yr olddodiad - asol. Mae enghreifftiau'n cynnwys clotrimasol, ffliwconasol a miconasol. Mae astudiaethau diweddar wedi dangos y gall defnyddio strategaeth driniaeth a elwir yn 'therapi cynnal' leihau dychweliad llindag y wain yn sylweddol. Yn ôl yr astudiaethau mae defnyddio ffliwconasol geneuol yn wythnosol, neu ddefnyddio naill ai itraconasol geneuol neu clotrimasol mewnweiniol, yn fisol, yn effeithiol yn atal llindag rhag dychwelyd.

Rheolaeth golygu

  • Mewn dioddefwyr diabetes, mae rheolaeth dda o lefel y siwgr gwaed yn lleihau'r perygl o lindag a heintiau eraill.
  • Ar gyfer defnyddwyr steroidau, gall defnyddio dyfais gwahanu leihau'r perygl o lindag, hefyd garglo a rinsio'r geg ar ôl defnyddio mewnanadlydd.
  • Dylai gwisgwyr dannedd gosod gadw'u dannedd gosod yn lân iawn a'u tynnu bob nos.
  • Os yw ceg sych yn ganlyniad i gymryd moddion, bydd sipian dŵr yn aml yn helpu i gadw'r geg yn wlyb.
  • Os digwydd llindag mewn baban, mae'n bwysig diheintio'r holl ddymis, teganau ceg ac offer bwydo.
  • Gall cyfyngu ar, neu roi'r gorau i ysmygu leihau dychweliad heintiau llindag.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)