Llyfrgell Genedlaethol Awstralia

llyfrgell yn Canberra

Lleolir Llyfrgell Genedlaethol Awstralia yn Canberra, prifddinas Awstralia. Delir rhyw 10 miliwn o eitemau yno.[1] Fe'i sefydlwyd gan ddeddf Seneddol 23 Mawrth 1961; etifeddodd gasgliad Llyfrgell Seneddol Cymanwlad Awstralia (Commonwealth Parliamentary Library), a sefydlwyd yn 1901 yn Melbourne. Symudodd hon i'r bifddinas newydd ym 1927. Ym 1968 agorodd adeilad newydd y Llyfrgell Genedlaethol ar lannau Llyn Burley Griffin.[2] Mae gan y llyfrgell bum safle bellach; yn ogystal â phedair yn Canberra ceir un yn llysgenhadaeth Awstralia yn Jakarta, Indonesia.[1]

Llyfrgell Genedlaethol Awstralia
Mathllyfrgell genedlaethol, oriel gelf, amgueddfa hanes, Government body of Australia, cwmni cynhyrchu Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 23 Mawrth 1961 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCanberra Edit this on Wikidata
SirCanberra Edit this on Wikidata
GwladBaner Awstralia Awstralia
Cyfesurynnau35.2964°S 149.1294°E Edit this on Wikidata
Map

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Facts and figures. Llyfrgell Genedlaethol Awstralia. Adalwyd ar 14 Tachwedd 2014.
  2. (Saesneg) History of the Library. Llyfrgell Genedlaethol Awstralia. Adalwyd ar 14 Tachwedd 2014.

Dolenni allanol golygu