Llyfrgell Tref Aberystwyth

llyfrgell gyhoeddus

Lleolir Llyfrgell Tref Aberystwyth ar Faes y Frenhines ar stryd Morfa Mawr (Queen St.) yn ardal Fictorianaidd y dref gyferbyn â Stryd Portland. Ni ddylid drysu gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd hefyd yn Aberystwyth.

Llyfrgell Aberystwyth
Mathllyfrgell gyhoeddus Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAberystwyth Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Uwch y môr8.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.417321°N 4.081689°W Edit this on Wikidata
Cod postSY23 2EB Edit this on Wikidata
Rheolir ganCyngor Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Map

Mae'r llyfrgell bellach wedi ei lleoli yn hen pencadlys Cyngor Tref Aberystwyth ond roedd hi cyn hynny ar Stryd y Gorfforaeth (Corporation St) rhyw 400 metr i'r de orllewin. Mae adeilad y llyfrgell yn rhan o Ganolfan Alun R. Edwards. Mae Archifdy Ceredigion hefyd yn rhan o Ganolfan Alun R. Edwards bellach.

Hanes golygu

 
Hen lyfrgell tref, Stryd y Gorfforaeth, Aberystwyth

Agorwyd y llyfrgell gyhoeddus gyntaf yn Aberystwyth yn in Compton House, Pier Street ar 13 Hydref 1874. Yn 1882 symudwyd y llyfrgell i'r Assembly Rooms ar Faes Lowri, a roddwyd i'r cyngor ar lês am 21 mlynedd. Daeth y lês i ben yn 1903 a dychwelodd y llyfrgell i Heol y Wig, y tro yma i'r hen Lyfrgell Banc ar y gornel â Stryd y Porth Bach (Eastgate Street) er mai dim ond am gyfnod y bu yma.[1]

Adeiladwyd llyfrgell Carnegie yn 1905 gyda grant o £3,000. Lleolwyd hwn yn Stryd y Gorfforaeth ac fe'i dyluniwyd gan y pensaer Walter Payton o Birmingham. Roedd yn un o'r 48 a ymgeisiodd yn y gystadleuaeth i gynllunio'r adeilad. Agorwyd hi yn swyddogol ar 20 Ebrill 1906 gan Mary, gwraig Matthew Vaughan-Davies, yr Aelod Seneddol lleol.

Symudodd llyfrgell y dref i safle Cyngor y Dref ar Morfa Mawr yn 2012. Gelwir yr adeilad yn Ganolfan Alun R. Edwards ar ôl llyfrgellydd cyntaf yr hen Gyngor Sir Ceredigion. Symudodd swyddfeydd y Cyngor (oedd yn cynnwys gwasanaeth talu trethi) i adeliad pwrpasol newydd ar Boulevard de Saint-Brieuc in 2009 rhydd rhwng tref Aberystwyth a stâd newydd Parc y Llyn i'r dwyrain. Mae swyddfa Cyngor Tref Aberystwyth (cyngor cymuned) oedd yn rhan o hen adeilad y Cyngor, bellach ar Stryd y Popty.

Gwasanaethau golygu

Mae'r llyfrgell yn cynnwys amrywiaeth eang o wasanaethau gan gynnwys: Llyfrau, DVDs, Llyfrau Llafar, Cryno Ddisgiau, Cyfrifiaduron a WiFi am Ddim, Gwasanaeth Llungopïo, Argraffu a Sganio, Ymchwil, Hanes Lleol, Papurau a Chylchgronau.

Mae'r llyfrgell ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 9.30am hyd nes 5.00pm neu 6.00pm ar wahanol ddyddiau.

Dolenni golygu

Gwefan Llyfrgelloedd Ceredigion[dolen marw]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Library Service History". Ceredigion County Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-02. Cyrchwyd 19 April 2013.