Llygredd plastig

math o lygredd

Llygredd plastig yw'r holl wrthrychau, darnau a gronynnau plastig (ee poteli plastig, bagiau plastig a microbelenni) yn amgylchedd y Ddaear sy'n effeithio'n andwyol ar bobl, bywyd gwyllt a'u cynefin.[1] Mae plastig yma'n gweithredu fel llygryddion ac yn cael eu categoreiddio yn ôl maint: micro, meso, neu facro.[2] Mae plastig yn ddeunydd rhad i'w gynhyrchu, mae hefyd yn wydn, gan ei wneud yn hawdd i'w siapio ar gyfer gwahanol ddefnyddiau; o ganlyniad, mae gweithgynhyrchwyr yn dewis defnyddio plastig dros ddeunyddiau eraill.[3] Fodd bynnag, mae strwythur cemegol y rhan fwyaf o blastig yn golygu y gallant wrthsefyll llawer o brosesau diraddio naturiol ac o ganlyniad maent yn araf iawn yn diraddio. Bydd yn parhau yn yr ecosystem am ganrifoedd.[4]

Llygredd plastig
Mathllygredd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gall llygredd plastig effeithio ar dir, dyfrffyrdd a chefnforoedd. Amcangyfrifir bod 1.1 i 8.8 miliwn tunnell o wastraff plastig yn mynd i mewn i'r môr o gymunedau arfordirol bob blwyddyn.[5] Amcangyfrifir bod stoc o 86 miliwn o dunelli o falurion morol plastig yn y cefnfor byd-eang o ddiwedd 2013, gyda 1.4% o blastigau byd-eang a gynhyrchwyd rhwng 1950 a 2013 wedi mynd i mewn i'r môr ac yn dal i gronni yno.[6] Mae rhai ymchwilwyr yn awgrymu erbyn 2050 y gallai fod mwy o blastig na physgod yn y cefnforoedd yn ôl pwysau.[7] Gall organebau byw, yn enwedig anifeiliaid morol, gael eu niweidio naill ai gan broblemau sy'n ymwneud â llyncu gwastraff plastig, neu drwy ddod i gysylltiad â chemegau o fewn plastigau sy'n ymyrryd â'u ffisioleg. Gall gwastraff plastig diraddiedig effeithio'n uniongyrchol ar bobl trwy ei fwyta'n uniongyrchol (hy mewn dŵr tap), defnydd anuniongyrchol (trwy fwyta anifeiliaid), a thrwy darfu ar fecanwaith yr hormonaidd amrywiol.

Erbyn 2019, cynhyrchwyd 368 miliwn tunnell o blastig bob blwyddyn; 51% yn Asia, gyda Tsieina'n gynhyrchydd mwya'r byd.[8] O'r 1950au hyd at 2018, amcangyfrifir bod 6.3 biliwn tunnell o blastig wedi'i gynhyrchu ledled y byd, gyda 9% ohono wedi'i ailgylchu a 12% arall wedi'i losgi.[9] Mae'r swm mawr hwn o wastraff plastig yn mynd i mewn i'r amgylchedd ac yn achosi problemau ledled yr ecosystem; er enghraifft, mae astudiaethau'n awgrymu bod cyrff 90% o adar môr yn cynnwys malurion plastig.[10][11] Mewn rhai ardaloedd bu ymdrechion sylweddol i leihau amlygrwydd llygredd plastig trwy leihau'r defnydd o blastig, glanhau sbwriel, a hyrwyddo ailgylchu plastig.[12][13]

Llywodraeth Cymru oedd y llywodraeth cyntaf yn ynysoedd Prydain i wneud y weithred o werthu nwyddau mewn bagiau plastig yn anghyfreithlon.[14][15] Yn ei 'Nodion Gwyddonol' wythnosol ym mhapur Y Cymro ar 23 Ebrill 1969, mewn erthygl o'r enw 'Y Chwyldro Plastig', sgwennodd Owain Owain:

Cynhyrchodd y byd 16 miliwn tunnell o ddefnyddiau plastig yn y cyfnod 1950-1965 - ond disgwylir i'r cyfnod 1965-1980 esgor ar 82 miliwn tunnell! Faint o geir plastig di-echel a doliau plastig di-bennau a chaneris di-drydar Made in Hong Kong fydd yn crensian dan ein traed tadol pan dyr y cenlli o 82 miliwn tunnell ar ein cartrefi tlawd?[16]

O 2020 ymlaen, mae màs byd-eang y plastig a gynhyrchir yn fwy na biomas yr holl anifeiliaid tir a morol gyda'i gilydd.[17] Mae diwygiad Mai 2019 i Gonfensiwn Basel yn rheoleiddio allforio / mewnforio gwastraff plastig, a fwriedir yn bennaf i atal cludo gwastraff plastig o wledydd datblygedig i wledydd sy'n datblygu. Mae bron pob gwlad wedi ymuno â'r cytundeb hwn.[18][19][20][21] Ar 2 Mawrth 2022 yn Nairobi, addawodd 175 o wledydd greu cytundeb cyfreithiol rwymol erbyn diwedd y flwyddyn 2024 gyda'r nod o ddod â llygredd plastig i ben.[22]

Glanhau traeth yn Ghana

Y llygrwyr mawr golygu

Cynhyrchu gwastraff plastig golygu

Yr Unol Daleithiau yw'r tramgwyddwr pennaf, o ran cynhyrchu gwastraff plastig, gan gynhyrchu 42 miliwn o dunelli metrig blynyddol o wastraff plastig.[23][24] Mae gwastraff plastig y pen yn yr Unol Daleithiau yn uwch nag mewn unrhyw wlad arall, gyda'r Americanwr cyffredin yn cynhyrchu 130.09 cilogram o wastraff plastig y flwyddyn. Mae gan wledydd incwm uchel eraill, megis gwledydd Ewrop (58.56kg y pen, yn flynyddol), hefyd gyfradd cynhyrchu gwastraff plastig uchel iawn. Cynhyrcha Japan, ar y llaw arall, 38.44kg, y pen, sy'n llawer llai o wastraff plastig y pen.[25][26]

Amcangyfrifodd Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yr Unol Daleithiau yn 2022 fod y swn o blastig, yn byd-eang, sy'n llifo i'r cefnforoedd yn 8 miliwn o dunelli metrig y flwyddyn.[27] Amcangyfrifodd astudiaeth yn 2021 gan The Ocean Cleanup fod afonydd yn cludo rhwng 0.8 a 2.7 miliwn o dunelli metrig o blastig i'r cefnfor, ac yn rhestru gwledydd yr afonydd gwaethaf: (o'r mwyaf i'r lleiaf): Philippines, India, Malaysia, Tsieina, Indonesia, Myanmar, Brasil, Fietnam, Bangladesh, a Gwlad Thai.[28]

Llygrwyr gwastraff plastig mwyaf golygu

Y 10 llygrwr mwyaf      Tsieina (27.7%)     Indonesia (10.1%)     Philipinau (5.9%)     Fietnam (5.8%)     Sri Lanka (5.0%)     Gwlad Thai (3.2%)     Yr Aifft (3.0%)     Maleisia (2.9%)     Nigeria (2.7%)     Bangladesh (2.5%)     De Affrica (2.0%)     India (1.9%)     Gweddill y byd (27.3%)

Cyfanswm y llygrwyr gwastraff plastig golygu

Mae tua 275 miliwn tunnell o wastraff plastig yn cael ei gynhyrchu bob blwyddyn ledled y byd; mae rhwng 4.8 miliwn a 12.7 miliwn tunnell yn cael ei ollwng i'r môr. Daw tua 60% o'r gwastraff plastig yn y cefnfor o'r 5 gwlad ganlynol.[29] Mae'r tabl isod yn rhestru'r 20 llygrydd plastig mwyaf yn 2010, yn ôl astudiaeth a gyhoeddwyd gan Science, Jambeck et al (2015).[5][30]

Y prif lygrwyr plastig (2010)
Swydd Gwlad Llygredd plastig



(mewn 1000 tunnell y flwyddyn)
1 Tsieina 8820
2 Indonesia 3220
3 Pilipinas 1880
4 Fietnam 1830
5 Sri Lanca 1590
6 Gwlad Thai 1030
7 yr Aifft 970
8 Malaysia 940
9 Nigeria 850
10 Bangladesh 790
11 De Affrica 630
12 India 600
13 Algeria 520
14 Twrci 490
15 Pacistan 480
16 Brasil 470
17 Myanmar 460
18 Morocco 310
19 Gogledd Corea 300
20 Unol Daleithiau 280

Byddai holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd gyda'i gilydd yn ddeunawfed ar y rhestr.[5][30]

Effeithiau ar bobl golygu

Mae cyfansoddion a ddefnyddir mewn gweithgynhyrchu yn llygru'r amgylchedd trwy ryddhau cemegau i'r aer a'r dŵr. Mae rhai cyfansoddion sy'n cael eu defnyddio mewn plastigion, fel ffthalatau, bisphenol A (BRA), ac ether diphenyl polybrominated (PBDE), yn cael eu rheoli'n llym gan eu bod yn niweidiol iawn. Er hyn, fe'u defnyddir wrth weithgynhyrchu pecynnau bwyd, dyfeisiau meddygol, deunyddiau lloriau, poteli, persawr, colur a llawer mwy.

Profwyd bod anadlu microblastigau (MB) yn un o'r prif ffactorau sy'n cyfrannu at y nifer o MBau sy'n cael eu defnyddio mewn bodau dynol. Mae MBau ar ffurf gronynnau llwch yn cael eu cylchredeg yn gyson trwy systemau awyru a thymheru dan do.[31] Profwyd fod dos mawr o'r cyfansoddion hyn yn beryglus i bobl, gan ddinistrio'r system endocrin. Mae BRA yn dynwared hormon y fenyw, o'r enw estrogen. Mae PBD yn dinistrio ac yn achosi niwed i hormonau thyroid, sy'n chwarennau hormon hanfodol sy'n chwarae rhan bwysig ym metaboledd, twf a datblygiad y corff dynol. Gall MBau hefyd gael effaith andwyol ar y gallu i atgenhedlu mewn dynion. Gall MBau fel BPA ymyrryd â biosynthesis steroid yn y system endocrin gwrywaidd a chyda chyfnodau cynnar o sbermatogenesis.[32] Gall MBau (microblastigau) mewn dynion hefyd greu straen ocsideiddiol a difrod DNA mewn sbermatosoa, gan achosi llai o hyfywedd sberm.[32]

Er bod lefel yr amlygiad i'r cemegau hyn yn amrywio yn dibynnu ar oedran a daearyddiaeth, mae'r rhan fwyaf o fodau dynol yn profi amlygiad ar yr un pryd i lawer o'r cemegau hyn. Mae lefelau cyfartalog amlygiad dyddiol yn is na'r lefelau y bernir eu bod yn anniogel, ond mae angen gwneud mwy o ymchwil i effeithiau dos isel ar bobl. Mae llawer yn anhysbys ynghylch pa mor ddifrifol y mae'r cemegau hyn yn effeithio'n gorfforol ar bobl.

Gall rhai o'r cemegau a ddefnyddir i gynhyrchu plastig achosi dermatitis wrth ddod i gysylltiad â chroen dynol. Mewn llawer o blastigau, dim ond mewn symiau bychan iawn y defnyddir y cemegau gwenwynig hyn, ond yn aml mae angen profion sylweddol i sicrhau bod deunydd anadweithiol neu bolymer yn cynnwys yr elfennau gwenwynig yn y plastig. Mae plant a menywod yn ystod eu hoed atgenhedlu yn y perygl mwyaf ac yn fwy tebygol o niweidio eu himiwnedd yn ogystal â'u system atgenhedlu o'r cemegau hyn sy'n tarfu ar yr hormonau. Mae cyfarpar fel poteli llaeth babanod, dymis, tegannau, ac offer bwydo plastig yn rhoi babanod a phlant mewn perygl uchel iawn.[31]

Canfu astudiaeth yn 2022 a gyhoeddwyd yn Environment International fod microblastig yng ngwaed 80% o’r bobl a brofwyd yn yr astudiaeth, ac mae gan ficroplastig o’r fath y potensial i wreiddio mewn organau dynol am byth.[33]

Cyfeiriadau golygu

  1. Laura Parker (June 2018). "We Depend on Plastic. Now We're Drowning in It". NationalGeographic.com. Cyrchwyd 25 Mehefin 2018.
  2. Hammer, J; Kraak, MH; Parsons, JR (2012). "Plastics in the marine environment: the dark side of a modern gift". Reviews of Environmental Contamination and Toxicology 220: 1–44. doi:10.1007/978-1-4614-3414-6_1. ISBN 978-1461434139. PMID 22610295. https://semanticscholar.org/paper/43553427495a7cc4d727f75bebc6b67b4e710393.
  3. Hester, Ronald E.; Harrison, R. M. (editors) (2011). Marine Pollution and Human Health. Royal Society of Chemistry. pp. 84–85. ISBN 184973240X
  4. Le Guern, Claire (March 2018). "When The Mermaids Cry: The Great Plastic Tide". Coastal Care. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Ebrill 2018. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2018.
  5. 5.0 5.1 5.2 Jambeck, Jenna R.; Geyer, Roland; Wilcox, Chris; Siegler, Theodore R.; Perryman, Miriam; Andrady, Anthony; Narayan, Ramani; Law, Kara Lavender (2015-02-13). "Plastic waste inputs from land into the ocean" (yn EN). Science 347 (6223): 768–771. Bibcode 2015Sci...347..768J. doi:10.1126/science.1260352. PMID 25678662. https://www.science.org/doi/abs/10.1126/science.1260352.Jambeck, Jenna R.; Geyer, Roland; Wilcox, Chris; Siegler, Theodore R.; Perryman, Miriam; Andrady, Anthony; Narayan, Ramani; Law, Kara Lavender (13 Chwefror 2015). "Plastic waste inputs from land into the ocean". Science. 347 (6223): 768–771. Bibcode:2015Sci...347..768J. doi:10.1126/science.1260352. PMID 25678662. S2CID 206562155.
  6. Jang, Y. C., Lee, J., Hong, S., Choi, H. W., Shim, W. J., & Hong, S. Y. 2015. "Estimating the global inflow and stock of plastic marine debris using material flow analysis: a preliminary approach". Journal of the Korean Society for Marine Environment and Energy, 18(4), 263–273.
  7. Sutter, John D. (12 Rhagfyr 2016). "How to stop the sixth mass extinction". CNN. Cyrchwyd 18 Medi 2017.
  8. "Archived copy" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 1 Medi 2021. Cyrchwyd 6 Hydref 2021.CS1 maint: archived copy as title (link)
  9. "The known unknowns of plastic pollution". The Economist. 3 March 2018. Cyrchwyd 17 Mehefin 2018.
  10. Nomadic, Global (29 Chwefror 2016). "Turning rubbish into money – environmental innovation leads the way".
  11. Mathieu-Denoncourt, Justine; Wallace, Sarah J.; de Solla, Shane R.; Langlois, Valerie S. (November 2014). "Plasticizer endocrine disruption: Highlighting developmental and reproductive effects in mammals and non-mammalian aquatic species". General and Comparative Endocrinology 219: 74–88. doi:10.1016/j.ygcen.2014.11.003. PMID 25448254.
  12. Walker, Tony R.; Xanthos, Dirk (2018). "A call for Canada to move toward zero plastic waste by reducing and recycling single-use plastics". Resources, Conservation and Recycling 133: 99–100. doi:10.1016/j.resconrec.2018.02.014.
  13. "Picking up litter: Pointless exercise or powerful tool in the battle to beat plastic pollution?". unenvironment.org. 18 Mai 2018. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2019.
  14. www.theguardian.com; adalwyd 5 Rhagfyr 2022]
  15. Gwefan Llywodraeth Cymru; adalwyd 5 Rhagfyr 2022.
  16. owainowain.net; adalwyd 5 Rhagfyr 2022
  17. Laville, Sandra (December 9, 2020). "Human-made materials now outweigh Earth's entire biomass – study". The Guardian. Cyrchwyd December 9, 2020.
  18. National Geographic, 30 Oct. 2020, "U.S. Generates More Plastic Trash than Any Other Nation, Report Finds: The Plastic Pollution Crisis Has Been Widely Blamed on a Handful of Asian Countries, But New Research Shows Just How Much the U.S. Contributes"
  19. UN Environment Programme, 12 Mai 2019 "Governments Agree Landmark Decisions to Protect People and Planet from Hazardous Chemicals and Waste, Including Plastic Waste"
  20. The Guardian, 10 Mai 2019, "Nearly All Countries Agree to Stem Flow of Plastic Waste into Poor Nations: US Reportedly Opposed Deal, which Follows Concerns that Villages in Indonesia, Thailand and Malaysia Had ‘Turned into Dumpsites’"
  21. Phys.org, 10 Mai 2019 "180 Nations Agree UN Deal to Regulate Export of Plastic Waste"
  22. "Historic day in the campaign to beat plastic pollution: Nations commit to develop a legally binding agreement". UN Environment Programme (UNEP). 2 March 2022. Cyrchwyd 11 March 2022.
  23. The Guardian, 1 Dec. 2021 | "‘Deluge of Plastic Waste’: US Is World’s Biggest Plastic Polluter; At 42m Metric Tons of Plastic Waste a Year, The US Generates More Waste than All EU Countries Combined"
  24. 2021 Consensus Study Report of the Committee of Experts of the United States National Academies of Engineering, Sciences and Medicine | "Reckoning with the U.S. Role in Global Ocean Plastic Waste"
  25. Statista, Ian Tiseo, 14 Apr. 2021 "Per capita plastic waste generation in select countries worldwide in 2016(in kilograms a year)"
  26. Science, 30 Oct. 2020 "The United States’ Contribution of Plastic Waste to Land and Ocean"
  27. National Academies of Sciences, Engineering, and Medicine (2022). "Summary". Reckoning with the U.S. Role in Global Ocean Plastic Waste (yn Saesneg). Washington: The National Academies Press. t. 1. ISBN 978-0-309-45885-6. Cyrchwyd 20 Mehefin 2022. An estimated 8 million metric tons (MMT) of plastic waste enter the world’s ocean each yearCS1 maint: multiple names: authors list (link)
  28. Meijer, Lourens J. J.; Van Emmerik, Tim; Van Der Ent, Ruud; Schmidt, Christian; Lebreton, Laurent (2021). "More than 1000 rivers account for 80% of global riverine plastic emissions into the ocean". Science Advances 7 (18). Bibcode 2021SciA....7.5803M. doi:10.1126/sciadv.aaz5803. PMC 8087412. PMID 33931460. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=8087412.
  29. "Plastic Oceans". futureagenda.org. London.
  30. 30.0 30.1 "Top 20 Countries Ranked by Mass of Mismanaged Plastic Waste". Earth Day.org. 4 Mehefin 2018."Top 20 Countries Ranked by Mass of Mismanaged Plastic Waste". Earth Day.org. 4 Mehefin 2018.
  31. 31.0 31.1 Kannan, Kurunthachalam; Vimalkumar, Krishnamoorthi (2021-08-18). "A Review of Human Exposure to Microplastics and Insights Into Microplastics as Obesogens". Frontiers in Endocrinology 12: 724989. doi:10.3389/fendo.2021.724989. ISSN 1664-2392. PMC 8416353. PMID 34484127. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=8416353.
  32. 32.0 32.1 D'Angelo, Stefania; Meccariello, Rosaria (2021-03-01). "Microplastics: A Threat for Male Fertility". International Journal of Environmental Research and Public Health 18 (5): 2392. doi:10.3390/ijerph18052392. ISSN 1660-4601. PMC 7967748. PMID 33804513. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7967748.
  33. Carrington, Damian (March 24, 2022). "Microplastics found in human blood for first time". The Guardian. Cyrchwyd March 28, 2022.

Darllen pellach golygu