Llyn Hywel

llyn, Gwynedd, Cymru

Mae Llyn Hywel yn llyn 13 acer o faint ym mynyddoedd y Rhinogau, i'r dwyrain o bentref Llanbedr a Chwm Nantcol, yng Ngwynedd.

Llyn Hywel
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.820736°N 3.98441°W Edit this on Wikidata
Map
Llyn Hywel a Rhinog Fach o Y Llethr

Saif Llyn Hywel rhwng Rhinog Fach ac Y Llethr, ac mae dau lyn llai, Llyn y Bi a Llyn Perfeddau, gerllaw iddo. Ystyrir y llyn yn un o'r rhai mwyaf trawiadol yng Nghymru oherwydd y creigiau o'i gwmpas.

Llyfryddiaeth golygu

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)