Llyn artiffisial a ffurfiwyd yn 1989 pan adeiladwyd Argae Manantali, ar afon Bafing ym Mali yw Llyn Manantali. Gorwedd ei ben gogleddol tua 90 km i'r de-ddwyrain o ddinas Bafoulabé. Mae ganddi arwynebedd o 477 km².

Llun lloeren o Lyn Manantali

Ers ei greu mae'r llyn wedi cael effaith niweidiol ar batrymau amaethyddiaeth ar lannau rhan uchaf afon Senegal ac afon Bafing, ond mae hefyd wedi creu diwydiant pysgota pwysig a rhyddhau dŵr i ddyfrhau'r tir amgylchynnol.