Llyn bychan yn Eryri, Gwynedd, yw Llyn Oerddwr. Fe'i lleolir 3 milltir i'r de-orllewin o bentref Beddgelert, mewn pant ar y grib rhwng Moel Hebog a Moel-ddu.[1] Uchder: 1,090 troedfedd.[2]

Llyn Oerddwr
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBeddgelert Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr1,090 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9821°N 4.1172°W Edit this on Wikidata
Map
Llyn Oerddwr

Codwyd argae ar y llyn er mwyn cyflenwi dŵr i waith chwarel llechi gerllaw, ond bellach mae'r argae yn adfail a'r llyn fel canlyniad yn llawer llai ei faint.

Ceir brithyll yn y llyn.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.
  2. 2.0 2.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931), tud. 131.