Locomotif Hunslet 564

Locomotif Stêm oedd Locomotif Hunslet 564, locomotif tanc ar gyfer rheilffyrdd cledrau cul lled 3 troedfedd. Gadawodd 564 ffatri Cwmni Hunslet ym Mai 1892 gyda’r enw ‘Bruckless’ i weithio dros Rheilffordd Sir Donegal ar gweith adeiladu’r llinell rhwng Donegal a Killybegs. Gwerthwyd y locomotif ar diwedd y gytundeb i adran dŵr Preston ar gyfer gwaith ar Gronfa Melin Spade, Longridge, lle enwyd y locomotif ‘Skylark’. Aeth o i Reilffordd Marmor Skye ym 1907[1]. Ar ôl methiant y chwarel, aeth y locomotif i Iard Sgrap W.N.Jackson yn Glasgow. Gwerthodd y locomotif gan Jackson i J Mackay ar gyfer gwaith adeiladu Cronfa Dŵr Roundwood yn Wicklow. Sgrapiwyd y locomotif ar diwedd y cytundeb adeiladu ym 1925.[2]


Cyfeiriadau golygu