Louisa M. Spooner

Nofelydd o Gymru a ysgrifennai yn Saesneg oedd Louisa Matilda Spooner, ffugenw LMS (18205 Rhagfyr 1886).[1][2][3][4] Cafodd ei geni ym Maentwrog. Roedd hi'n ferch i'r peiriannydd rheilffordd James Spooner. Bu farw ym Mhortmadog, heb briodi.

Louisa M. Spooner
Ganwyd1820 Edit this on Wikidata
Bu farw1886 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnofelydd Edit this on Wikidata
Bedd Louisa Matilda Spooner ym mynwent St Cynhaearn, Ynyscynhaearn. Claddwyd hi yn yr un bedd â'i rhieni.

Ysgrifennodd dair nofel:

  • Gladys of Harlech; an Historical Romance (1858)
  • Country Landlords (1860)
  • The Welsh Heiress: A Novel (1868)

Canolbwyntiodd yn ei nofelau yn bennaf ar bynciau'n gysylltiedig â Chymru ac o safbwynt Cymreig. Yn Gladys of Harlech, defnyddiodd Spooner gefndir Rhyfeloedd y Rhosynnau i drafod Cymreictod yn ei pherthynas â choron Lloegr.[5] Yn Country Landlords, bu’n trafod perchnogaeth tir a gweriniaetholdeb yng nghyd-destun y Risorgimento yn yr Eidal yn ystod 19eg ganrif, tra bod The Welsh Heiress yn ymwneud ag effaith alcoholiaeth ar gymunedau ffermio.[6][7] Mae ei holl nofelau wedi’u gosod yn ei sir enedigol, Sir Feirionnydd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Evans, Cleveland Kent (9 Hydref 2018). "Evans: From Welsh roots, Gladys has worked its way through the grapevine". omaha.com (yn Saesneg). Omaha World Herald. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2023.
  2. "Author: Louisa Matilda Spooner". www.victorianresearch.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2023.
  3. "L.M. Spooner Books & Audiobooks". Everand (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2023.
  4. Singer, Rita (2017). "Gladys of Harlech and the Wars of the Roses". Porth Ymchwil Aberystwyth (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2023.
  5. Singer, Rita (2015). Lindfield, Peter; Margrave, Christie. eds. "Liberating Britain from Foreign Bondage: A Welsh Revision of the Wars of the Roses in L. M. Spooner’s Gladys of Harlech; or, The Sacrifice (1858)". Rule Britannia?: 143–158. https://research.aber.ac.uk/cy/publications/liberating-britain-from-foreign-bondage-a-welsh-revision-of-the-w-2.
  6. Singer, Rita (2016-12-20). "Adapting the Risorgimento: Ideas of Liberal Nationhood in L. M. Spooner's Country Landlords (1860)". Women's Writing 24 (4): 466–481. doi:10.1080/09699082.2016.1268342. ISSN 0969-9082. http://www.scopus.com/inward/record.url?scp=85006886578&partnerID=8YFLogxK.
  7. Singer, Rita (2022) (yn en), Re-inventing the Gwerin: Anglo-Welsh identities in fiction and non-fiction, 1847-1914, Deutsche Nationalbibliothek, https://portal.dnb.de/opac.htm?method=simpleSearch&cqlMode=true&query=idn%3D1264863306, adalwyd 16 Chwefror