Louisine Havemeyer
Ffeminist Americanaidd oedd Louisine Havemeyer (28 Gorffennaf 1855 - 6 Ionawr 1929) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel casglwr celf, swffragét a ffeminist.
Louisine Havemeyer | |
---|---|
Ganwyd | 28 Gorffennaf 1855 Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 6 Ionawr 1929 Manhattan |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | casglwr celf, ymgyrchydd dros hawliau merched, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Priod | Henry Osborne Havemeyer |
Plant | Electra Havemeyer Webb, Horace Havemeyer |
Fe'i ganed yn Ninas Efrog Newydd ar 28 Gorffennaf 1855; bu farw yn Ninas Efrog Newydd. Bu'n briod i Henry Osborne Havemeyer ac roedd Electra Havemeyer Webb yn blentyn iddi.[1][2][3]
Noddodd y celfyddydau'n helaeth, gan gynnwys yr arlunydd Edgar Degas a'r ffeminist Alice Paul.
Magwraeth golygu
Ganed Louisine Waldron Elder yn Ninas Efrog Newydd ar Orffennaf 28, 1855, i'r masnachwr George W. Elder (1831-1873) a'i wraig, Matilda Adelaide Waldron (1834–1907). Hi oedd yr ail o bedwar o blant: Anne Eliza Elder, Mrs. Henry Norcross yn ddiweddarach (1853-1917), Adaline Mapings Elder, yn ddiweddarach Mrs Samuel Twyford Peters (1859-1943), a brawd George Waldron Elder (1860-1916 ). [4]
Yn fuan ar ôl marwolaeth ei thad, teithiodd Louisine Elder a'i theulu i Ewrop am gyfnod o dair blynedd. Hwyliod y teulu ar 25 Mai 1873, ar fwrdd yr S.S Calabria, ynghyd â'u teulu estynedig: modryb Amanda McCready a'r teulu, a chefnder Mary Mapes Dodge, golygydd Cylchgrawn St. Nicholas ac awdur Hans Brinker. Yno, bu'r arlunydd Mary Cassatt yn ddylanwad arni, ac awgrymodd ei bod yn buddsoddi mewn gwaith pastel gan Degas.[5][6]
Wrth i amser fynd heibio, yn enwedig ar ôl i Louisine briodi Henry O. Havemeyer, daeth Cassatt yn ymgynghorydd i'r Havemeyers, gan helpu i adeiladu eu casgliad celf a hwyluso'r berthynas waith a fyddai rhngddynt a'r Artistiaid Argraffiadol (Impressionist Artists), gan gynnwys Edgar Degas, Edouard Manet, Camille Pissarro a Claude Monet. Datblygodd cyfeillgarwch gydol oes rhwng Louisine Havemeyer a Mary Cassatt, a wnaeth sawl pastel o Louisine a'i phlant.
Aelodaeth golygu
Bu'n aelod o Silent Sentinels am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau golygu
Paentiadau o'i chasgliad, a adawodd i'r Metropolitan Museum of Art golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Rhyw: https://rkd.nl/explore/artists/453769. dyddiad cyrchiad: 27 Awst 2017. https://research.frick.org/directory/detail/642.
- ↑ Dyddiad geni: https://rkd.nl/explore/artists/453769. dyddiad cyrchiad: 23 Awst 2017. "Louisine Waldron Elder Havemeyer". ffeil awdurdod y BnF.
- ↑ Dyddiad marw: https://rkd.nl/explore/artists/453769. dyddiad cyrchiad: 23 Awst 2017. "Louisine Waldron Elder Havemeyer". ffeil awdurdod y BnF.
- ↑ Man gwaith: https://rkd.nl/explore/artists/453769. dyddiad cyrchiad: 2 Mawrth 2018.
- ↑ Mathews, Nancy Mowll (1998). Mary Cassatt: A Life. New Haven: Yale University Press. tt. 76-82. ISBN 978-0-300-07754-4.
- ↑ Weitzenhoffer, Frances (1886). The Havemeyers: Impressionism Comes to America. New York: Harry N. Abrams, Inc. tt. 20–21. ISBN 0-8109-1096-9.