Josei manga gan Yun Kōga ydy Loveless (ラブレス Raburesu) sy'n gyfres o storiau diddiwedd. Cafodd ei gyhoeddi'n gyntaf mewn cylchgrawn o Japan o'r enw Zero Sum gan Ichijinsha ac mewn sawl tankōbon. Mae Kōga yn bwriadu dod a'r manga i ben ar ôl 15 cyfrol.[1]

Clawr y llyfr

Cafodd cyfres deledu ei darlledu rhwng Ebrill a Mehefin 2005 gan J.C. Staff ar TV Ashai. Yn yr USA, cafodd ei darlledu gan Media Blaster mewn set o 3 DVD yn 2006.

Mae gan y cymeriadau agweddau corfforol fel cathod, (kemonomimi): clustiau hir a chynffonau a cheir cathferched a chathfechgyn. Mae'r nodweddion corfforol hyn yn diflannu pan mae'r cymeriad yn colli ei morwyndod ac mae'r cymeriad yn troi'n oedolyn.

Y plot golygu

12 oed ydy Ritsuka Aoyagi (青柳立夏) ac mae hi'n ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol newydd. Mae o'n cyfarfod Soubi Agatsuma, sy'n 20 oed. Mae Soubi'n deud iddo fod yn ffrind da i frawd Ritsuka (sef Seimei) cyn iddo gael ei ladd ddwy flynedd cynt. Ond mae Ritsuka'n mynd drwy ffeils cyfrifiadur ei frawd ac yn darganfod cymdeithas gyfrin o'r enw 'Septimal Moon' (Nana no tsuki 七の月) sydd wedi lladd ei frawd. Ond mae profi hyn yn anodd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Hartzheim, Bryan (2009-07-17). "Anime Expo 2009: Interview with Yun Kouga, Seiji Mizushima, and Yosuke Kuroda". UCLA Asia Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-23. Cyrchwyd 2009-07-31.

Darllen pellach golygu

  • Brient, Hervé (2008). Brient, Hervé (gol.). Homosexualité et manga : le yaoi. Manga: 10000 images (yn French). Editions H. tt. 104–105. ISBN 978-2-9531781-0-4.CS1 maint: unrecognized language (link)

Dolennau allanol golygu