Luise von Ploennies

Bardd o'r Almaen oedd Luise von Ploennies (7 Tachwedd 1803 - 22 Ionawr 1872) a oedd hefyd yn cyfieithu rhai gweithiau.

Luise von Ploennies
Ganwyd7 Tachwedd 1803 Edit this on Wikidata
Hanau Edit this on Wikidata
Bu farw22 Ionawr 1872 Edit this on Wikidata
Darmstadt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethbardd, cyfieithydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Hanau, tref yn Hesse, yr Almaen a bu farw yn Darmstadt, tref arall yn nhalaith Hesse.[1][2][3]

Magwraeth golygu

Roedd yn ferch i'r naturiaethwr Johann Philipp Achilles Leisler. Yn 1824 priododd y meddyg Awst von Ploennies yn Darmstadt a chawsant 7 o blant. Ar ôl ei farwolaeth ym 1847, bu'n byw am rai blynyddoedd yng Ngwlad Belg, yna yn Jugenheim (eto yn Hesse) ar yr hen ffordd fynyddig, y Bergstrasse, ac yn olaf yn Darmstadt, lle bu farw.

Y bardd golygu

Rhwng 1844 a 1870 cyhoeddodd sawl cyfrol o farddoniaeth, yn arbennig cerddi hapus am gariad, cerddi gwladgarol a disgrifiadau o olygfeydd. Ysgrifennodd hefyd ddwy ddrama feiblaidd, Maria Magdalena (1870) a David (1873).

Y cyfieithydd golygu

Fel cyfieithydd o'r Saesneg i'r Almaeneg, cyhoeddodd Luise von Ploennies ddau gasgliad o gerddi, Britannia (1843) a Englische Lyriker des 19ten Jahrhunderts ('Beirdd y 19g'; 1863, 3ydd. rhifyn, 1867).

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Academi Frenhinol Gwyddoniaeth, Llythyrau a Chelfyddydau Cain Gwlad Belg am rai blynyddoedd.


Gwaith wedi'i gyhoeddi golygu

Fel awdur golygu

  • Dunkle Bilder. Erzählung. 1843.
  • Gedichte. 1844.
  • Ein Kranz den Kindern. Gedichte. 1844.
  • Reiseerinnerungen aus Belgien. 1845.
  • Abälard und Heloise. Ein Sonettenkranz. 1849.
  • Oskar und Gianetta. Ein Sonettenkranz. 1850.
  • Neue Gedichte. 1851.
  • Wittekind. Dramatisches Oratorium. 1852.
  • Maryken von Nimegen. Poetisches Epos. 1858.
  • Die sieben Raben. Gedichte. 1862.
  • Sawitri. Drama. 1862.
  • Lilien auf dem Felde. Religiöse Dichtung. Lehmann, Leipzig 1864.
  • Ruth. Biblische Dichtung. 1864.
  • Joseph und seine Brüder. Epische Dichtung. 1866.
  • Maria von Bethanien. Neutestamentliches Gedicht. 1867.
  • Maria Magdalena. Ein geistliches Drama in fünf Aufzügen. 1870.
  • Die heilige Elisabeth. Episches Gedicht. 1870.
  • David. Ein biblisches Drama in fünf Aufzügen. 1874.
  • Sagen und Legenden nebst einem Anhang vermischter Gedichte. 1874 (postum).
  • Zwei Bäume.

Fel cyfieithydd golygu

  • Britannia. Eine Auswahl englischer Dichtungen alter und neuer Zeit. Keller, Frankfurt am Main 1878 (darin 8 Sonette von William Shakespeare[4]).
  • Ein fremder Strauß. Gedichte. 1845.
  • Die Sagen Belgiens. 1846.
  • Englische Dichter des 19. Jahrhunderts. Fleischmann, München 1863.

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014
  2. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 "Luise von Plönnies". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Luise von Plönnies". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  3. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 "Luise von Plönnies". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Luise von Plönnies". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Übersetzer Shakespeares