Mae Lydia Martin yn un o brif gymeriadau'r rhaglen deledu MTV Teen Wolf, ac sy'n cael ei bortreadu gan Holland Roden. Mae'n ymddangos ym mhob cyfres.

Holland Roden, yr actores sy'n portreadu Lydia Martin

Disgybl yn Beacon Hills High School yw Lydia Martin, yn y stori, mae hefyd yn Banshee ac yn aelod brwd o Teen Wolf Pack o dan arweiniad Scott McCall ei ffrind a bortreadir gan Tyler Posey, sef y bleidd-ddyn a roddodd ei enw ar y gyfres. Mae Martin yn gariad i Jackson Whittemore (Colton Haynes) yn y cyfresi cyntaf, cyn dechrau perthynas gyda Stiles Stilinski (Dylan O'Brien) yn ystod cyfres olaf y rhaglen.[1]

Nain Lydia Martin oedd Lorraine, ac roedd y ddwy yn agos at ei gilydd, ond gan fod gan Lorraine hefyd bwerau cyfrin, cafodd ei chloi mewn ysbyty meddwl, lle lladdodd ei hun.

Ymddangosa Martin yn dwp i lawer o gymeriadau'r gyfres, ond cuddio ei gallu anghyffredin y mae mewn gwirionedd. Yn wir, gall siarad Lladin clasurol a hynafol, ac mae ei IQ uchel yn ei gwneud yn genius.

Oed golygu

Yn Omega, datgelodd Sheriff Stilinski fod Lydia'n 16 oed, ac ychydig wythnosau wedyn mae'n dathlu ei phen-blwydd yn 17. Erbyn Cyfres 4 credir ei bod yn 18 ac mae hyn yn cael ei gadarnhau yng Nghyfres 5 pan ddywed 'Deputy Parrish' ei bod yn 18 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. teenwolf.fandom.com; adalwyd 2 Ionawr 2019.