Hunangofiant gan y cerddor Meic Stevens yw Mâs o 'Mâ: Hunangofiant Meic Stevens, Rhan Tri. Y Lolfa a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2011. Yn 2017 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Mâs o 'Mâ
AwdurMeic Stevens
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
PwncHunangofiant
Argaeleddmewn print
ISBN9781847713247

Disgrifiad byr golygu

Dyma gyfrol hunangofiannol olaf Meic Stevens lle mae'n adrodd ei hanes o ganol yr 80au hyd at heddiw. Mae'n sôn yn ddiflewyn-ar-dafod am ei fywyd personol, am y broses o gyfansoddi rhai o'r caneuon gorau yn yr iaith Gymraeg ac am ffrindiau a cherddorion sydd wedi dylanwadu arno. Cyfrol onest a gafaelgar gan y swynwr o Solfach sydd bellach yn byw yng Nghanada.


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 28 Awst 2017.