Roedd MFI Group Limited yn fanwerthwr dodrefn a oedd yn gweithredu o dan y brand MFI. Roedd y cwmni yn gyflenwr ceginau a dodrefn ty yn y Deyrnas Gyfunol, ac yn gweithredu yn bennaf mewn parciau manwerthu a lleoliadau ar gyrion trefi. Honnwyd ar un adeg bod y un o bob tri cinio dydd Sul yn y Deyrnas Gyfunol yn cael ei goginio mewn cegin o MFI, a bod 60% o blant yng ngwledydd Prydain wedi eu cenhedlu mewn ystafell wely o MFI.[1]

MFI Group
Math
busnes
Diwydiantmanwerthu
Sefydlwyd1964
SefydlyddNoel Lister
Daeth i ben2008
PencadlysLlundain
Cynnyrchdodrefn
Siop MFI yn Durham

Yn dilyn llwyddiant yn ei ddegawdau cynnar, fe wynebodd y cwmni drafferthion ariannol a sawl newid mewn perchnogaeth hyd nes y cyhoeddwyd, ar 26 Tachwedd 2008, ei fod wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.[2] Merchant Equity Partners, dan arweiniad Henry Jackson, oedd y perchnogion pan gafodd ei werthu i'r rheolwyr ym Medi 2008 am 'elw bychan'.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Treanor, Jill (2006). MFI sold for £1 and repackaged as Galiform
    , The Guardian, 23 September 2006, Accessed 24 May 2017.
  2. "MFI set to go into administration". BBC News. 26 November 2008. Cyrchwyd 26 November 2008.
  3. Official MEP website and news