Mabyn ach Brynach

santes Geltaidd

Santes Gernyweg o'r 6g oedd Mabyn.

Mabyn ach Brynach
Mabyn mewn ffenestr yn Sant Neot
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl18 Tachwedd Edit this on Wikidata
TadBrynach Wyddel Edit this on Wikidata
MamCymorth Edit this on Wikidata

Roedd hi'n ferch i Cymorth a Brynach ac yn chwaer i Mynfer, Mwynen (Morwenna) ac Endelyn (Endellion) ac felly'n or-wyres i Brychan Brycheiniog.[1] Ganwyd hi yng Nghernyw ar ôl i'r teulu symud yno o dde Cymru.[2]

Sefydlodd llan ger y lle a elwir heddiw yn Sant Mabyn, Cernyw.[1][2] Mae'r eglwys gyfoes, a cysegri iddi, ar safle agored i'r tywydd ond gelwir pentref mewn cwm cyfagos yn 'Trefyglos' (tref-eglwys) a cheir 'Ffynnon Mabyn' gerllaw. Mabyn yw un o'r seintiau a ddarlunnir mewn ffenestr lliw a wnaethpwyd yn 1593 yn Eglwys Sant Neot yng Nghernyw; gelwir hi'n "ffenestr y gwragedd".[1][2][3]

Gweler Hefyd golygu

Dylid darllen yr erthygl hon yng nghyd-destun yr erthygl "Santesau Celtaidd 388-680

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Baring-Gould, S. a Fisher J. gol. Bryce D.1990, The Lives of the British Saints, Gwasg Prifysgol Cymru
  2. 2.0 2.1 2.2 Breverton, T.D. 2000, The Book of Welsh Saints, Glyndwr publishing
  3. Spencer, R. 1991, Saints of Wales and the West Country, Llannerch