Polymixis flavicincta
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Noctuidae
Genws: Polymixis
Rhywogaeth: P. flavicincta
Enw deuenwol
Polymixis flavicincta
Denis & Schiffermüller, 1775
Cyfystyron
  • Noctua flavicincta Denis & Schiffermüller, 1775
  • Noctua dysodea Esper, 1790
  • Polymixis major (Esper, 1790)
  • Polia ochracea Smith, 1900
  • Andropolia ochracea
  • Polymixis lajonquierei

Gwyfyn sy'n perthyn i deulu'r Noctuidae yn urdd y Lepidoptera yw maen mawr, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy meini mawr (-ion); yr enw Saesneg yw Large Ranunculus, a'r enw gwyddonol yw Polymixis flavicincta.[1][2]

Darlun

40–50 mm ydy lled dwy adain yr oedolyn o un eithaf i'r llall ac mae'r blaen-adain yn 17–22 mm. Mae'n hedfan mewn un cenhedlaeth yn unig, rhwng diwedd Awst a Thachwedd.

Prif fwyd y siani flewog ydy gweiriau megis mint, Taraxacum officinale, Senecio, ac ar adegau coed sy'n dwyn ffrwyth.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r maen mawr yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Isrywogaethau golygu

  • Polymixis flavicincta flavicincta
  • Polymixis flavicincta meridionalis (Corsica,...)
  • Polymixis flavicincta lajonquierei (Sbaen,...)
  • Polymixis flavicincta caroli (Algeria,...)
  • Polymixis flavicincta laportei (Morocco,...)

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.