Maes Awyr Ryngwladol y Fam Teresa, Tirana

maes awyr ryngwladol Albania

Maes Awyr Ryngwladol y Fam Teresa, Tirana neu (Albaneg: Aeroporti Ndërkombëtar i Tiranës Nënë Tereza, Saesneg: Tirana International Airport Nënë Tereza; côd ryngwladol IATA: TIA, ICAO: LATI), a elwir yn gyffredin yn Faes Awyr Rinas, yw prif awyrfa ryngwladol Albania.

Maes Awyr Ryngwladol y Fam Teresa, Tirana
Mathmaes awyr rhyngwladol, maes awyr, erodrom traffig masnachol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTirana, Y Fam Teresa Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1957 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Tirana, Sir Durrës, Krujë Municipality, Kamëz Edit this on Wikidata
GwladBaner Albania Albania
Uwch y môr38 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.4147°N 19.7206°E Edit this on Wikidata
Nifer y teithwyr7,257,634 Edit this on Wikidata
Map
Rinas
Tu fewn terfynnell, 2016

Enwyd yr awyrfa ar ôl Y Fam Teresa yn 2002. Roedd hi'n leian a chenhades Catholig yn yr India. Lleolir y maesawyr ym mhentref Rinas sydd 11 km i'r gogledd orllewin o brifddinas Albania, Tirana.

Mae'r maes awyr yn un o'r rhai prysuraf yn y Balcan gan ddygymod gyda 2.6 teithiwr yn 2017. Dinasoedd eraill Ewrop yw ei phrif gyrchfannau. Mae'n gweithredu fel canolfan ar gyfer y cwmni hedfan domestig, Albawings a fel 'focus city' ar gyfer Adria Airways, Blue Panorama Airlines ac Ernest Airlines.[1]

Hanes golygu

 
Hen awyrfa Tirana, golygfa o du fewn awyren am allan, 1978
 
Awyrfa Ryngwladol y Fam Teresa, Tirana cyn y dyluniad newydd, 2004

Roedd gan Albani wasanaeth hedfan fasnachol ryngwladol cyn yr Ail Ryfel Byd pan oedd awyr domestig Iwgoslafia, Aeroput yn gweithredu hediadau cyson rhwng Belgrâd a Tirana a glaniad yn Dubrovnik. Adeiladwyd y maes awyr ar y safle yn Rinas rhwng 1955 a 1957. Gyda cwymp Comiwnyddiaeth yn 1991 a'r rhyddhau'r farchnad a ddaeth yn sgîl hynny, gwelwyd cynnydd sydyn yn nifer y cwmniau hedfan oedd yn defnyddio'r awyrfa.

Cyfredol golygu

Mae offer y maes awyr wedi'i foderneiddio'n sylweddol, yn dilyn buddsoddiad gan gonsortiwm Tirana International Airport SHPK, a gymerodd reolaeth dros y maes awyr ar 23 Ebrill 2005, ar ôl ennill consesiwn am gyfnod o ugain mlynedd. Mae'r contract consesiwn yn golygu adeiladu terfynell deithwyr hollol newydd a gwahanol welliannau i'r seilwaith, gan gynnwys adeiladu llwybr mynediad newydd. Bydd y gwaith newydd yn gwella'r gwasanaethau a gynigir i deithwyr yn sylweddol. Fodd bynnag, nid oes gan y maes awyr bontydd glanio sy'n caniatáu i deithwyr drothwyo (board) ac dad-drothwyo awyren heb orfod gadael y terfynell. Gyda'r gwelliannau hyn, bydd gan y maes awyr y gallu i ddelio gyda traffig teithwyr Albania am y 10-15 mlynedd nesaf.

Cyrraedd y Maes Awyr golygu

Car Cysylltir y maes awyr gan draffordd SH60 (10 km i ffwrdd) i ffordd fynedfa SH2 Durres -Tirana. Ceir gwasnaethau tacsi a llogi car yn yr awyrfa. Mae siwrne o Tirana i'r awyrfa yn cymryd oddeutu 20-25 munud (yn ddibynnol ar y traffig).

Bws Mae bws awyrfa, Rinas Express, wedi ei lleoli y tu allan i derfynnell 'cyrraedd' ac yn gadael ar yr awr bob awr (8.00am - 7.00pm) am ganol dinas Tirana. Hyd y daith yw oddeutu 25 - 30 munud. Mae'r Rinas Express yn gwasanaethau 12 awr (6.00am i 6.00pm) fel gwasanaeth rhwng y maes awyr a'r Amgueddfa Genedlaethol yng nghanol dinas Tirana. Cost tocyn un ffordd yw 250 Lek. O ddinas Durres, pris tocyn sengl yw 480 Albanian Lek

Traffig golygu

Teithwyr, cwmnïau awyrenau ac ystadegau cargo yn Awyrfa Nënë Tereza Airport
Blwyddyn Teithwyr Newid Cwmmni Awyren Newid Cargo
(metric tons)
Newid
2005 785,000  20.77% 15,400 N.A. N.A. N.A.
2006 906,103  15.43% 15,856   2.96% 2,435 N.A.
2007 1,105,770  22.04% 18,258  15.15% 3,832  57.37%
2008 1,267,041  14.58% 19,194   5.13% 2,497  34.84%
2009 1,394,688  10.07% 20,064   4.53% 2,265   9.29%
2010 1,536,822  10.19% 20,768   3.51% 2,355   3.97%
2011 1,817,073  18.24% 22,988  10.69% 2,656  12.78%
2012 1,665,331   8.35% 20,528  10.70% 1,875  29.41%
2013 1,757,342   5.53% 19,942   2.85% 2,164  15.41%
2014 1,810,305   3.02% 17,928   3.02% 2,324  13.53%
2015 1,997,044   10.3% 20,876   16.4% 2,229  4.1%[2]
2016 2,195,100   11.3% 22,352   7.1% 2,200  1%[3]
2017 2,630,338   19.8% 24,336   9% 2,266  3%[4]
2018 (01.01 - 28.02) 368,706   11.0% 3606   6.9% 349  7.7%[5]

Llwybrau Prysuraf golygu

Llwybrau Prysuraf Awyrfa Tirana
Rank Cyrchfan Maes/Meysydd awyr Nifer y Teithwyr 2017[6] Prif carriers
1   Milan MXP, BGY 390.735 Blue Panorama Airlines, Ernest Airlines
2   Rhufain FCO 323.322 Alitalia, Blue Panorama Airlines
3   Istanbul IST, SAW 235.286 Pegasus Airlines, Turkish Airlines
4   Vienna VIE 174.363 Austrian Airlines
5   Pisa PSA 123.005 Albawings, Ernest Airlines
6   Verona VRN 118.646 Blue Panorama Airlines, Ernest Airlines, Volotea
7   Bologna BLQ 116.158 Blue Panorama Airlines, Ernest Airlines
8   London LGW, STN 96.865 Albawings, British Airways, Small Planet Airlines
9   Frankfurt FRA 90.286 Adria Airways, Lufthansa
10   Athen ATH 84.860 Aegean Airlines

Cyfeiriadau golygu

  1. "Local-based carrier Albawings continues to grow successfully in the market - Tirana International Airport". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-12. Cyrchwyd 21 February 2017.
  2. name="tirana-airport.com"
  3. http://www.tirana-airport.com/l/7/53/company-information/facts-figures/[dolen marw]
  4. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2022-08-07. Cyrchwyd 2018-04-16.
  5. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-04-06. Cyrchwyd 2018-04-16.
  6. "Market Statistics - Tirana International Airport". 23 February 2018.[dolen marw]