Llenor Bengaleg Indiaidd oedd Mahasweta Devi (14 Ionawr 1926 - 28 Gorffennaf 2016) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gweithredydd dros hawliau dynol, bardd, nofelydd, addysgwr ac awdur storiau byrion.[1][2]

Mahasweta Devi
Ganwyd14 Ionawr 1926 Edit this on Wikidata
Dhaka Edit this on Wikidata
Bu farw28 Gorffennaf 2016 Edit this on Wikidata
Kolkata Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner India India
Alma mater
  • Prifysgol Calcutta
  • Prifysgol Visva-Bharati Edit this on Wikidata
Galwedigaethamddiffynnwr hawliau dynol, ysgrifennwr, bardd, nofelydd, addysgwr, awdur storiau byrion Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Calcutta Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHajar Churashir Maa Edit this on Wikidata
TadManish Ghatak Edit this on Wikidata
PriodBijon Bhattacharya Edit this on Wikidata
PlantNabarun Bhattacharya Edit this on Wikidata
PerthnasauRitwik Ghatak Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Sahitya Akademi mewn Bengali, Urdd Ramon Magsaysay, Gwobr Banga Bibhushan, Gwobr Jnanpith, Officier des Arts et des Lettres‎, Padma Shri mewn Gwaith Cymdeithasol, Padma Vibhushan mewn Llenyddiaeth ac Addysg, SAARC Literary Award Edit this on Wikidata
llofnod

Fe'i ganed yn Dhaka, Bangladesh ('Decca' yr adeg honno) a bu farw yn Kolkata yng ngogledd-ddwyrain India o syndrom amharu ar organau lluosog.[3] Wedi gadael yr ysgol mynychodd Prifysgol Visva-Bharati ac M.A. ym Mhrifysgol Calcutta.[4][5] Priododd Bijon Bhattacharya ac mae Nabarun Bhattacharya yn blentyn iddi. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Hajar Churashir Maa.[6][7]

Mae ei gweithiau llenyddol nodedig yn cynnwys Hajar Churashir Maa, Rudali, ac Aranyer Adhikar. Roedd yn gomiwnydd cydnabyddedig ac yn gweithio dros hawliau a grymuso'r bobl llwythol (Lodha a Shabar) o daleithiau India Bengal, Bihar, Madhya Pradesh a Chhattisgarh yn India. Cafodd ei hanrhydeddu â gwobrau llenyddol amrywiol fel Gwobr Sahitya Akademi (mewn Bengaleg), Gwobr Jnanpith a Gwobr Ramon Magsaysay ynghyd â gwobrau sifil India Padma Shri a Padma Vibhushan.[8]

Magwareth ac addysg golygu

Roedd ei thad, Manish Ghatak (enw barddol: Jubanashwa (Bengali: যুবনাশ্ব), yn fardd ac yn nofelydd cydnabyddiedig o fewn y mudiad Kallol. Awdur hefyd oedd ei mam, Dharitri Devi, ac roedd ei brodyr yn nodedig yn ei meysydd e.e. roedd Sankha Chaudhury yn geflunydd enwog a Sachin Chaudhury yn olygydd y cylchgrawn wythnosol ar economeg.[9] Cynhyrchydd a gwneuthurwr ffilm oedd ei brawd, Ritwik Ghatak.[10] [11]

Y llenor golygu

Ysgrifennodd Devi dros 100 o nofelau a thros 20 o gasgliadau o straeon byrion wedi'u hysgrifennu'n bennaf mewn Bengaleg ond a gyfieithwyd yn aml i ieithoedd eraill. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, o'r enw Jhansir Rani, yn seiliedig ar gofiant Rani o Jhansi ym 1956. Roedd wedi teithio o amgylch rhanbarth Jhansi i gofnodi gwybodaeth a chaneuon gwerin gan y bobl leol ar gyfer y nofel.[12]

Llyfryddiaeth golygu

  • Jhansi Rani (1956, bywgraffiad)
    • The Queen of Jhansi, gan Mahasweta Devi (cyfieithwyd gan Sagaree a Mandira Sengupta).ISBN 8170461758
  • Hajar Churashir Maa (1974, nofel)
  • Aranyer Adhikar (1979, nofel)
  • Agnigarbha (1978, casgliad o storiau byrion)
  • Murti (1979, casgliad o storiau byrion)
  • Neerete Megh (1979, casgliad o storiau byrion)
  • Stanyadayani (1980, casgliad o storiau byrion)
  • Chotti Munda Evam Tar Tir (1980, casgliad o storiau byrion)

Addasiadau ffilm golygu

  • Sunghursh (1968), ffilm Hindi yn seiliedig ar y stori Layli Asmaner Ayna[13]
  • Rudaali (1993)[14]
  • Bayen (Hindi) (1993) cynhyrchwyd gan Gul Bahar singh
  • Hazaar Chaurasi Ki Maa (1998)[14]
  • Maati Maay (2006), ffilm gan Marathi yn seiliedig ar y stori fer Baayen[14][15]
  • Gangor (2010), Ffilm Eidaleg wedi'i seilio ar y stori fer Choli Ke Peeche[14]
  • Ullas (ffilm Bengali yn seiliedig ar dair stori fer Daur, Mahadu Ekti Rupkatha a Anna Aranya) cynhyrchwyd gan Ishwar Chakraborty; 2012.

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Sahitya Akademi mewn Bengali (1979), Urdd Ramon Magsaysay (1997), Gwobr Banga Bibhushan (2011), Gwobr Jnanpith (1996), Officier des Arts et des Lettres‎ (2003), Padma Shri mewn Gwaith Cymdeithasol (1986), Padma Vibhushan mewn Llenyddiaeth ac Addysg (2006), SAARC Literary Award[16][17] .

Cyfeiriadau golygu

  1. Detailed Biography Archifwyd 2010-03-26 yn y Peiriant Wayback. Ramon Magsaysay Award.
  2. John Charles Hawley (2001). Encyclopedia of Postcolonial Studies. Greenwood Publishing Group. tt. 142–. ISBN 978-0-313-31192-5. Cyrchwyd 6 Hydref 2012.
  3. Staff, Scroll. "Eminent writer Mahasweta Devi dies at 90 in Kolkata". Scroll. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2016.
  4. Johri 2010, t. 150.
  5. Tharu 1993, t. 234.
  6. Rhyw: http://www.nytimes.com/2010/10/22/world/asia/22calcutta.html.
  7. Dyddiad geni: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 10 Ionawr 2022.
  8. "Tearing the curtain of darkness". The Hindu (yn Saesneg). 2016-07-31. ISSN 0971-751X. Cyrchwyd 2016-07-31.
  9. Sunil Sethi (15 Chwefror 2012). The Big Bookshelf: Sunil Sethi in Conversation With 30 Famous Writers. Penguin Books India. tt. 74–. ISBN 978-0-14-341629-6. Cyrchwyd 5 Hydref 2012.
  10. "Mahasweta Devi passes away". The Hindu. Kolkata. 28 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2016.
  11. Anrhydeddau: http://sahitya-akademi.gov.in/awards/akademi%20samman_suchi.jsp#BENGALI. dyddiad cyrchiad: 20 Chwefror 2019. http://www.jnanpith.net/page/jnanpith-laureates.
  12. "Who was Mahasweta Devi? Why her death is a loss for Indian readers". Cyrchwyd 2016-07-31.
  13. Upala Sen (17 April 2016). "The book thief". Telegraph India. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-08. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2016.
  14. 14.0 14.1 14.2 14.3 Devarsi Ghosh (28 Gorffennaf 2016). "Mahasweta Devi, RIP: Rudaali to Sunghursh, 5 films that immortalise the author's works". India Today. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2016.
  15. Marathi cinema has been producing a range of serious films.. Archifwyd 27 February 2008[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback. Frontline, The Hindu Group, Cyfrol 23 – Rhifyn 20: 7–20 Hyd. 2006.
  16. http://sahitya-akademi.gov.in/awards/akademi%20samman_suchi.jsp#BENGALI. dyddiad cyrchiad: 20 Chwefror 2019.
  17. http://www.jnanpith.net/page/jnanpith-laureates.