Mai Masri

cyfarwyddwr ffilm a aned yn Amman yn 1959

Gwneuthurwr, cyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilmiau o Balesteina yw Mai Masri (Arabeg: مي المصري‎; g. Ebrill 2, 1959).[1] Fe'i ganed yn Aman, Gwlad Iorddonen. Rhaglenni dogfen yw'r rhan fwyaf o'i ffilmiau, sy'n canolbwyntio ar frwydrau bywyd go-iawn y menywod a'r plant sy'n byw yn y tiriogaethau Palesteinaidd a feddianwyd gan Israel a Libanus. Mae hi wedi derbyn dros 60 o wobrau rhyngwladol am ei ffilmiau a chaiff ei galw'n "arloeswr yn niwydiant ffilm y Dwyrain Canol".[2]

Mai Masri
Ganwyd2 Ebrill 1959 Edit this on Wikidata
Amman Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Palesteina Palesteina
Alma mater
  • Prifysgol San Francisco Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, cyfarwyddwr, sgriptiwr Edit this on Wikidata
TadMunib al-Masri Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Masri yn Aman, Gwlad Iorddonen ar 2 Ebrill 1959.[3] Mae hi'n ferch i Munib Masri o Nablus. Treuliodd ei phlentyndod cynnar yn Aman a Nablus cyn symud i Beirut pan oedd yn y radd gyntaf yn ei hysgol.[3] Cyflwynwyd Masri i wleidyddiaeth yn gynnar yn ei bywyd trwy ei thad, Munib al-Masri a oedd yn ffrindiau agos ag arweinwyr Mudiad Rhyddid Palesteina gan gynnwys Yasser Arafat a Khalil al-Wazir a fyddai’n aml yn ymweld â nhw yn eu cartref. Chwaraeodd gwleidyddiaeth ran fawr yn ei theulu wrth i'w thad weithredu fel gweinidog y llywodraeth yng Ngwlad Iorddonen yn y 1970au.[3]

Ym 1976 ymwelodd â Berkeley, California lle mynychodd ddarlith ar theori ffilm, darlith a'i swynodd ac a'i harweiniodd i ddilyn addysg ym myd y ffilmiau.[3] Graddiodd o Brifysgol Talaith San Francisco ym 1981 gyda gradd Baglor yn y Celfyddydau mewn cynhyrchu a thechneg ffilm.[3] Yn fuan wedyn, dychwelodd i Beirut gan ddechrau gwneud ffilmiau.

Bywyd personol a gyrfa golygu

Cyfarfu Masri â’i gŵr, y gwneuthurwr ffilmiau o Libanus, Jean Chamoun, ym 1977 wrth ymweld â Beirut ar ei gwyliau haf o’r coleg. Roedd y ddau yn yr un byd: y ffilm a'i allu i ddylanwadu ar bobl.[4] Symudodd Masri yn ôl i San Francisco i orffen ei gradd a dychwelodd i Beirut ym 1981.[3] Ar yr adeg hon roedd goresgyniad Israel o Libanus wedi cychwyn, a bu’n rhaid i Masri a Chamoun roi'r gorau i'r prosiect yr oeddent ill dau'n gweithio arno.[4]

Yr haf hwnnw saethodd y pâr ffilmiau bywiog o dan amodau peryglus y byddent yn eu defnyddio yn ddiweddarach yn eu ffilmiau Blodau Gwyllt (1986), Dramau Gohiriedig (1992), O Dan y rwbel (1983) a Chenhedlaeth y Rhyfel (1989).[1] Yn 1986 priododd Masri a Chamoun gan sefydlu cwmni Nour Productions.[4] Mae gan y pâr ddwy ferch.

Ar Awst 9, 2017 bu farw gŵr Masri, Jean Chamoun, ar ôl brwydr hir gyda chlefyd Alzheimer.[4] Ffrwyth llafur y pâr, ar wahân i'w plant, oedd 15 ffilm, a rhoddodd pob un o'r ffilmiau lais i straeon am bobl yn byw o dan galedi rhyfel. Mae eu gwaith yn cael ei ganmol am ddod yn offeryn newid a chreadigrwydd.[5]

Ar ôl eu ffilm gyntaf, O Dan y Rwbel (1983), prynodd Masri a Chamoun eu hoffer eu hunain gan ganiatáu iddynt gynhyrchu ffilmiau cyllideb isel ar eu telerau eu hunain. Buont yn byw ym Mharis am flwyddyn i rwydweithio y tu allan i'r diwydiant ffilm Arabaidd, er mwyn gallu cynhyrchu a dosbarthu ffilmiau dramor. Derbyniodd y pâr eu seibiant mawr pan gomisiynodd y BBC War Generation ar gyfer eu cyfres Inside Story.[3]

Gweithiau golygu

Ffilmograffeg golygu

Mae lluniau Masri yn canolbwyntio ar Balesteina a'r Dwyrain Canol ac maen nhw wedi ennill gwobrau mewn gwyliau ffilm ledled y byd. Ffocws eu ffilmiau yw bywydau pobl gyffredin sy'n byw mewn cyfnod rhyfedd o wrthdaro, a sut maen nhw'n llwyddo i gadw eu dynoliaeth trwy realiti eu sefyllfaoedd dinistriol. Nod ei ffilmiau yw bod yn ddilys, yn wir, a thrwy hynny'n adrodd stori wahanol i'r dad-ddyneiddio ystrydebol a diswyddo hawliau Palesteiniaid fel a geir mewn ffimiau Israelaidd, Americanaidd ayb.[6]

  • O dan y Rwbel (1983)
  • Blodau Gwyllt: Merched De Libanus (1986)
  • Cynhyrchu Rhyfel (1989)
  • Plant Tân (1990)
  • Breuddwydion Ataliedig (1992)
  • Hanan Ashrawi: Menyw o'i hamser (1995)
  • Plant Shatila (1998)
  • Ffiniau Breuddwydion ac Ofnau (2001)
  • Dyddiaduron Beirut (2006)
  • 33 Diwrnod (2007)
  • 3000 Nosweithiau (2015)

Erthygl golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Mattar, Philip (2005). Encyclopedia of the Palestinians (arg. Rev). New York: Facts on File. ISBN 0816057648. OCLC 56103977.
  2. "Director Mai Masri Explores Occupation, Incarceration in 3,000 Nights". IMEU (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-10-30.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 Hillauer, Rebecca (2005). "Masri, Mai (1959–)". Encyclopedia of Arab Women Filmmakers. Cairo: American Univ. in Cairo Press. tt. 223–235. ISBN 977-424-943-7.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 King, Laurie (2018-02-01). "Jean Chamoun (1942–2017): Lebanese Filmmaker and Champion of the Palestinian Cause" (yn en). Journal of Palestine Studies 47 (2): 77–79. doi:10.1525/jps.2018.47.2.77. ISSN 0377-919X.
  5. Melhem, Ahmad (2018-09-16). "Mai Masri, daughters pledge to keep alive Jean Chamoun's film legacy". Al-Monitor (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-11-01.
  6. "Mai Masri". Center for Palestine Studies | Columbia University (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-11-01.

Dolenni allanol golygu