Nofelydd, sgriptiwr ffilm, a dramodydd Archentaidd oedd Manuel Puig (28 Rhagfyr 193222 Gorffennaf 1990)[1]. Ei gampwaith ydy'r nofel El beso de la mujer araña (1976).

Manuel Puig
FfugenwManuel Puig Edit this on Wikidata
GanwydJuan Manuel Puig Delledonne Edit this on Wikidata
28 Rhagfyr 1932 Edit this on Wikidata
General Villegas Edit this on Wikidata
Bu farw22 Gorffennaf 1990 Edit this on Wikidata
Cuernavaca Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Buenos Aires Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, dramodydd, sgriptiwr, nofelydd, ymgyrchydd Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd yn General Villegas, Talaith Buenos Aires, yr Ariannin, a chafodd ei fagu yno yn y pampas. Roedd ei fam yn hoff iawn o'r sinema, a chafodd Manuel ei swyno gan fyd ffilmiau yn gynnar yn ei oes. Symudodd i'r brifddinas Buenos Aires yn 12 oed i fynychu'r ysgol breswyl. Astudiodd athroniaeth ym Mhrifysgol Buenos Aires o 1948, a dysgodd Saesneg, Ffrangeg, ac Eidaleg drwy wylio ffilmiau.

Aeth i Rufain yn 1956 i astudio cyfarwyddo ffilm mewn ysgol ffilm arbrofol, a gweithiodd ar effeithiau arbennig y ffilm A Farewell to Arms (1957).[2] Treuliodd amser hefyd yn Stockholm ac yn Llundain. Ni chafodd ei sgriptiau fawr o sylw, a dychwelodd i'r Ariannin ar ddechrau'r 1960au.

Ysgrifennodd ei nofel gyntaf, La traición de Rita Hayworth (1968), ar sail ei blentyndod yn gwylio ffilmiau. Ymhlith ei nofelau diweddarach mae Pubis angelical (1979) a Maldición eterna a quien lea estas páginas (1980).

Wedi i Juan Perón ddychwelyd i'r arlywyddiaeth yn 1973, penderfynodd Puig adael yr Ariannin. Symudodd i Fecsico, Efrog Newydd, a Brasil. Bu farw yn Cuernavaca yn nhalaith Morelos, Mecsico, yn 57 oed, o drawiad ar y galon wedi iddo dderbyn llawdriniaeth ar ei goden fustl.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Manuel Puig. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Ebrill 2019.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) John T. McQuiston, "Manuel Puig, Realist Author, 57; Wrote 'Kiss of the Spider Woman'", The New York Times (23 Gorffennaf 1990). Adalwyd ar 11 Ebrill 2019.

Darllen pellach golygu