Mari Berllan Biter

gwrach (m. 4 Tachwedd 1898) a oedd yn byw yn Aberarth, pentref bach ar arfordir Ceredigion

Gwrach neu 'wraig hysbys' oedd Mari Berllan Biter (m. 4 Tachwedd 1898) a oedd yn byw yn Aberarth, pentref bach ar arfordir Ceredigion, tua 3 milltir i'r gogledd o Aberaeron yng Ngheredigion. Bu farw yn nhy ei chyfnither Mary Anne Davies yn Clifton Terrace, Aberarth ar 4 Tachwedd 1898.

Mari Berllan Biter
GanwydAberarth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwrach Edit this on Wikidata

Yn un o’r chwedlau amdani, gwrthododd i Dic y Felin falu ŷd iddi, felly gwnaeth Mari i olwyn y felin droi am yn ôl.

Dro arall bu i ferch ifanc o’r ardal ddwyn afal oddi ar Mari, a chafodd hi ei gorfodi, trwy wrachyddiaeth, i gerdded am yn ôl yr holl ffordd adref.

Dywedir ei bod yn fyr iawn, gydag un ysgwydd yn is na'r llall. Cuddiai ei phen o dan ei shol, ond pan godai ei phen i edrych ar rhywun, dywedir fod ei llygaid fel cyllell yn treiddio'n ddwfn. Arferai gardota, gyda basged wag, ond ni ofynai fyth am fwyd. pe gwrthodwyd hi, byddai'n troi ar ei sowdl ac yn melltithio'r person, neu ei anifeiliaid, neu'n peri i'r llaeth geulo.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. cymunedpennantcommunity.org.uk; Archifwyd 2020-10-22 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 29 Hydref 2019.