Lleolir Marina Abertawe (hen enw ar ran o'r traeth yma oedd Cwts y Cŵn[1]) y tu ôl i forglawdd Bae Abertawe wrth aber Afon Tawe yn Abertawe, Cymru. Rhoddwyd statws baner las i'r marina ym Mehefin 2005 a derbyniodd bump angor euraidd wrth y Gymdeithas Hwylio Harbwr. Mae yno fuarth cychod ar gyfer adeiladu a trwsio cychod, ac ambell siop yn gwerthu offer hwylio.

Marina Abertawe
Mathmarina Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6158°N 3.9383°W Edit this on Wikidata
Map
Marina Abertawe

Mae'r sefydliadau hwylio sydd wedi'u lleoli ym Marina Abertawe yn cynnwys Clwb Hwylio ac Is-ddwr Abertawe a'r Maiden Voyage, sydd yn berchen ar iot rasio môr 72 troedfedd o hyd.

Yr ardal ger morglawdd Bae Abertawe. Gellir gweld adeilad Pocketts Wharf ar yr ochr dde

Hanes golygu

Ar ôl blynyddoedd o ddirywiad yn niwydiannau trwm yng ngwaelod Cwm Tawe, caeodd Doc y De yn Nociau Abertawe ym 1969 gan adael yr ardal yn dir gwastraff. Gwerthwyd y tir i'r cyngor am swm bychan. I ddechrau, bwriadwyd adeiladu ffordd osgoi er mwyn lleihau'r trafnidiaeth ar Heol Ystumllwynarth. Fodd bynnag, yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974 penderfynwyd ar strategaeth gynllunio newydd. Erbyn 1975, roedd y strategaeth newydd yn gyflawn a nodai amcanion cymdeithasol ac economaidd a fyddai'n adfywio'r ardal.

Cymrodd bum mlynedd arall i brynu'r tir, ei glirio a darparu'r adnoddau angenrheidiol er mwyn gallu ail-ddatblygu'r safle. Adeiladwy morgloddiadu newydd, cliriwyd gwaelod y dociau o unrhyw sbwriel a rhoddwyd angorau newydd ar gyfer y marina newydd.

Agorodd y marina ar gyfer cychod ym 1982 gan ddarparu lle ar gyfer 385 o gychod.

Datblygiadau'r dyfodol golygu

Fel rhan o'r datblygiadau ar gyfer Doc Tywysog Cymru, bydd 400 o lefydd ar gyfer cychod yn cael eu creu, gan olygu y bydd marina Abertawe yn medru dal dros 1,000 o gychod erbyn 2010.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. [https://twitter.com/CymraegCaerdydd/status/1043925834560622593 Cyfri Trydar Hanes Cymraeg Caerdydd / @CymraegCaerdydd; yn dyfynnu - Nautical Observations on the Port and Maritime Vicinity of Cardiff: With ... Gweler Llyfrau Google yma.

Dolenni allanol golygu