Awdur Americanaidd yw Mary Gordon (ganwyd 8 Rhagfyr 1949) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, beirniad llenyddol, prifathro-prifysgol a newyddiadurwr. Yn 2008 fe'i henwyd yn Brif Awdur Talaith Efrog Newydd.

Mary Gordon
Ganwyd8 Rhagfyr 1949 Edit this on Wikidata
Far Rockaway, Long Island Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Syracuse
  • Coleg Barnard Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, beirniad llenyddol, newyddiadurwr, rhyddieithwr, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Coleg Barnard Edit this on Wikidata
PriodArthur H. Cash Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Janet Heidinger Kafka, Gwobr Janet Heidinger Kafka, Gwobr O. Henry Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Far Rockaway, Queens, Efrog Newydd ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Syracuse, prifysgol breifat yn Syracuse, Efrog Newydd.[1][2][3][4]

Magwraeth golygu

Ganwyd Mary Gordon i Anna (Gagliano) Gordon, mam Gatholig Wyddelig-Eidalaidd, a David Gordon, tad Iddewig. Bu farw ei thad ym 1957 pan oedd hi'n ifanc.[5] Roedd hi wedi uniaethu ag ef a'i gariad at ysgrifennu ac at ddiwylliant, ac wedi parhau i ddysgu y chwedlau roedd wedi eu hadrodd iddi. Pan oedd hi yn ei 40au, dechreuodd ddysgu mwy amdano, gan ddarganfod ei fod wedi trosi i Gatholigiaeth pan oedd yn ddyn ifanc ym 1937, cyn iddo briodi ei mam. Ei enw cyntaf oedd Israel a mewnfudodd yn chwech oed gyda'i deulu i Lorain, Ohio o Vilna, Lithwania.[6][7] Wedi i'w thad droi o Iddewiaeth i Gatholigiaeth, cyhoeddodd rai ysgrifau a oedd yn wrth-semitig ac yn asgell dde.

Yn ddiweddarach, daeth ymchwil Gordon i'w thad, a'i hymgais i gysoni ei darganfyddiadau hi â'i chof o'i thad yn sail i'w chofiant, The Shadow Man: A Daughter's Search for Her Father (1996).[8]

Ar ôl colli ei gŵr, symudodd Anna a Mary i fyw gyda mam Anna, a oedd yn Babydd Gwyddelig, yn Valley Stream, ger Queens.[5] Gweithiodd ei mam fel ysgrifenyddes er mwyn cynnal y teulu. Cafodd Gordon blentyndod Catholig iawn. Mynychodd Ysgol Holy Name of Mary yn Valley Stream ac ysgol uwchradd Academi Mary Louis, yn Jamaica, Efrog Newydd.[9]

Coleg golygu

Er bod ei mam a'i theulu eisiau i Gordon fynd i goleg Catholig, dyfarnwyd ysgoloriaeth i Gordon i Goleg Barnard, a derbyniodd ei A.B. yno ym 1971. Dilynodd waith graddedig, gan gwblhau MA ym Mhrifysgol Syracuse ym 1973. Bu Gordon yn byw yn New Paltz, Efrog Newydd am gyfnod yn ystod yr 1980au gyda'i hail ŵr Arthur Cash, athro Saesneg ym Mhrifysgol Talaith Efrog Newydd yn Paltz Newydd. Ymddeolodd fel Athro Nodedig Emeritws Saesneg ac roedd yn rownd derfynol Gwobr Pulitzer (2007). [10][11]

Yr awdur golygu

Cyhoeddodd Gordon ei nofel gyntaf, Final Payments, ym 1978. Yn 1981, ysgrifennodd y rhagair i rifyn Harvest o "A Room of One's Own" gan Virginia Woolf.

Yn 1984 roedd hi'n un o 97 o ddiwinyddion a phersonau crefyddol a lofnododd Ddatganiad Catholig ar Lluoseddiaeth ac Erthyliad (A Catholic Statement on Pluralism and Abortion), gan alw am luosogrwydd crefyddol a thrafodaeth o fewn yr Eglwys Gatholig ynghylch ar erthyliad.[12]

Llyfryddiaeth golygu

Rhestr hyd at 2019:

Nofelau golygu

Casgliadau o nofelau bychan a storiau byrion golygu

Llyfrau ffeithiol golygu

  • Memoirs
  • Essays
  • Religion
  • Biography
    • Joan of Arc (2000) ISBN 0-670-88537-1
    • On Merton. Shambhala Publications. 2019. ISBN 978-1-6118-0337-2. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-08. Cyrchwyd 2019-08-08.

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1993), Gwobr Janet Heidinger Kafka (1981), Gwobr Janet Heidinger Kafka (1978), Gwobr O. Henry (1997)[14] .

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11905425h. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 28 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11905425h. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: "Mary Gordon (writer)". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Mary Gordon". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Mary Gordon". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Man geni: "Mary Gordon | Biography, Books, & Facts | Britannica" (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2022.
  5. 5.0 5.1 Don Lee, "About Mary Gordon: A Profile", Ploughshares, Issue 73 |Fall 1997; adalwyd Nedi 2018
  6. Chan, Sewell. "Official State Author and Poet Are Named". Cyrchwyd 2016-09-24.
  7. "Biography | Mary Gordon". www.marygordon.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Medi 24, 2016. Cyrchwyd Medi 24, 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. William H. Pritchard, "The Cave of Memory", New York Times, 26 Mai 1996; adalwyd 10 Awst 2018
  9. "Bill Moyers on Faith & Reason. Bill Moyers and Mary Gordon and Colin McGinn. June 30, 2006 | PBS". www.pbs.org. Cyrchwyd 2016-09-24.
  10. Galwedigaeth: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 5 Rhagfyr 2023. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 5 Rhagfyr 2023.
  11. Anrhydeddau: https://rochester.edu/college/wst/SBAI/recipients.html. dyddiad cyrchiad: 18 Chwefror 2016. https://rochester.edu/college/wst/SBAI/recipients.html. dyddiad cyrchiad: 18 Chwefror 2016.
  12. Keller, Rosemary Skinner; Ruether, Rosemary Radford; Cantlon, Marie (2006). Encyclopedia of women and religion in North America. 3. Indiana University Press. tt. 1104–1106. ISBN 0-253-34688-6.
  13. "Prodigal Son < Killing the Buddha". killingthebuddha.com. Cyrchwyd 2016-09-24.
  14. https://rochester.edu/college/wst/SBAI/recipients.html. dyddiad cyrchiad: 18 Chwefror 2016.