Meghan Trainor

cyfansoddwr a aned yn 1993

Cantores, cyfansoddwraig caneuon a chynhyrchydd recordiau yw Meghan Elizabeth Trainor (ganwyd 22 Rhagfyr 1993). Ganwyd yn Nantucket, Massachusetts i Gary a Kelli Trainor. Roedd ei thad yn dysgu cerddoriaeth am wyth mlynedd, a nawr mae'n chwarae'r organ yn ei eglwys. Aeth Meghan i ysgol 'Nauset Regional High School', gyda'i dau frawd. Roedd eisiau bod yn gantores ers roedd hi'n unarddeg, a gwireddwyd ei dymuniad pan arwyddodd gyda'r cwmni Epic Records. Gyda'r cwmni, rhyddhaodd llawer o ganeuon, wedi eu hysbrydoli gan gantorion enwog fel Frank Sinatra, Ariana Grande, Christina Aguilera a Bruno Mars.

Meghan Trainor
GanwydMeghan Elizabeth Trainor Edit this on Wikidata
22 Rhagfyr 1993 Edit this on Wikidata
Nantucket Edit this on Wikidata
Label recordioEpic Records, Kemosabe Records, RCA Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Berklee College of Music
  • Nauset Regional High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr-gyfansoddwr, canwr, cynhyrchydd recordiau, cerddor, cyfansoddwr, television personality Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAll About That Bass Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, cyfoes R&B, pop dawns, cerddoriaeth yr enaid, doo-wop Edit this on Wikidata
Math o laisalto Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAretha Franklin, Bruno Mars, Elvis Presley, Frank Sinatra, Stevie Wonder, Phil Collins, Beyoncé Knowles, Ariana Grande, Jason Mraz, T-Pain, Britney Spears, Destiny's Child, NSYNC Edit this on Wikidata
PriodDaryl Sabara Edit this on Wikidata
PartnerCharlie Puth Edit this on Wikidata
PlantRiley Sabara Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Gammy am yr Artist Newydd Gorau, Billboard Women in Music, Billboard Music Award for Top Hot 100 Song, Gwobr People's Choice, Radio Disney Music Award for Best Song That Makes You Smile Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.meghan-trainor.com Edit this on Wikidata

Caneuon golygu

Mae gan Meghan bedair albwm: 'Title', 'Only 17', 'I'll Sing With You', a 'Title' (EP). Rhyddhaodd ei sengl gyntaf ' All About That Bass', ar 30 Mehefin 2014 a'i hail sengl ('Lips Are Movin') ar 21 Hydref 2014, a'i sengl 'Dear Future Husband', ar 17 Mawrth 2015.

Gwobrau golygu

Mae Meghan Trainor wedi ennill llawer o wobrau gwahanol, gan gynnwys: 'Youtube Music Award', 'Top Hot 100 Songs', 'Top Digital Song', a 'Most Performed Songs'.

Gwefannau cymdeithasol golygu

Mae Meghan yn enwog iawn ar wefannau cymdeithasol ac mae ganddi lawer o ddilynwyr ar 'Instagram', 'Twitter', 'Facebook','Snapchat' a 'Tumblr'.

YouTube golygu

Mae Meghan Trainor wedi rhoi llawer o fideos ar YouTube, e.e. fideos o'i chaneuon, cyfweliadau gyda newyddiadurwyr cylchgrawn neu bapur newydd. Uwchlwythodd hefyd eiriau ei chaneuon, a fideos o Meghan ar lwyfan mewn cyngherddau. Mae ganddi dros filiwn o ddilynwyr ar 'Youtube'.

Cyfeiriadau golygu