Melin Frogwy

melin wynt rhestredig Gradd II yn Llanddyfnan

Cefndir golygu

Melin Frogwy
 
Mathmelin wynt  
Daearyddiaeth
LleoliadLlanddyfnan  
SirLlanddyfnan  
Gwlad  Cymru
Uwch y môr41.5 metr  
Cyfesurynnau53.2686°N 4.3592°W  
 
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II  
Manylion

Mae Melin Frogwy yn felin wynt a arferai gael ei gyrru gan ddŵr Llyn Frogwy ger Bodffordd, Ynys Môn.[1] Bu melin ar y llecyn hwn ers 1352.[2]

Mae'r tŵr wedi ei orchuddio gyda eiddew ac ym mhen draw lôn llawn coed sy'n ymestyn o'r B5109 ychydig i'r gorllewin o bentref Bodffordd. Mae'n sefyll ar frigiad creigiog ar ymyl ochr deuheuol Llyn Frogwy llyn bychan a fu unwaith yn cyflenwi dŵr i olwyn ddŵr uwchben melin ddŵr gyfagos.

Dau felinydd golygu

Bu melin ar y safle ers o leiaf 1352 pan nodir enw ei pherchennog: Llywelyn ap Dafydd Fychan. Mae'r adeilad hwn yn dyddio'n ôl i ddechrau'r 19eg ganrif. Yn y 1890au cafodd ei droi'n dŷ.

Ym 1735 cafwyd y melinydd yn euog o lofruddio un o'i forynion a chafodd ei gosbi drwy roi haearn gwynias ar ei ddwylo. Ym 1909 lladdwyd melinydd arall, sef Hugh Hughes, pan gydiodd rhan o'i ddillad yn y peirianwaith.


Cyfeiriadau golygu

  1. Anglesey History – Windmills
  2. "Anglesey Windmills". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-13. Cyrchwyd 2014-04-30.