Melin drafod

corff er hyrwyddo ymchwil, polisi a lobio syniadau newydd ym maes llywodraethiant, diwylliant, economi neu'r militari

Mae melin drafod [1] (Saesneg: think tank), yn sefydliad ymchwil sy'n cynnig cyngor a syniadau ar faterion gwleidyddol, economaidd, ecolegol, cymdeithasol neu filwrol.[2] Mae rhai yn annibynnol, mae gan eraill gysylltiadau agos â phleidiau gwleidyddol, grwpiau diddordeb neu lobïau busnes, sefydliadau academaidd. Fel arfer mae'r term hwn yn cyfeirio'n benodol at sefydliadau lle mae grŵp o ysgolheigion amlddisgyblaethol yn cynhyrchu dadansoddiadau. ac argymhellion polisi.[3]

Melin drafod
Mathsefydliad, carfan bwyso, sefydliad addysgol, sefydliad ymchwil Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebanti-think tank Edit this on Wikidata
Cynnyrchdeddfwriaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Campws Prifysgol Stanford - Tŵr Hoover, canolfan yr Hoover Institution a sefydlwyd gan yr Arlywydd, Edgar Hoover yn 1919

Sefydliadau preifat ydyn nhw fel arfer (yn aml ar ffurf sylfeini neu endidau dielw). Yn enwedig yn yr Unol Daleithiau, mae yna rai sy'n ddylanwadol iawn yng ngwleidyddiaeth y wlad. Yn Ewrop, mae sefydliadau o'r fath i'w cael ond mae eu gallu i ddylanwadu ar wleidyddiaeth gwladwriaethau yn dal i fod ymhell o'r dylanwad sydd gan sefydliadau Americanaidd.

Pwrpas golygu

 
Digwyddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol – Ymchwiliad i Ddeddfu yn y Pedwerydd Cynulliad a drefnwyd ar y cyd gyda Sefydliad Materion Cymreig (Hydref 2014)
 
Digwyddiad Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus a gynhehaliwyd gan y Cynulliad (fel y'i galwyd ar y pryd) ar y cyd â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Sefydliad Materion Cymreig, yn enghraifft o'r cydweithio a chydblethu ym maes polisi Cymru (Mai 2012)

Mae melinau trafod yn cyhoeddi erthyglau ac astudiaethau, a hyd yn oed yn drafftio deddfwriaeth ar faterion penodol o bolisi neu gymdeithas. Yna defnyddir y wybodaeth hon gan lywodraethau, busnesau, sefydliadau cyfryngau, mudiadau cymdeithasol neu grwpiau buddiant eraill.[4][5] Mae melinau trafod yn amrywio o'r rhai sy'n gysylltiedig â gweithgareddau academaidd neu ysgolheigaidd iawn i'r rhai sy'n amlwg yn ideolegol ac yn gwthio am bolisïau penodol, gydag ystod eang yn eu plith o ran ansawdd eu hymchwil. Mae cenedlaethau diweddarach o felinau trafod wedi tueddu i fod yn fwy ideolegol.[4] Dechreuodd melinau trafod modern fel ffenomen yn y Deyrnas Unedig yn y 19eg ganrif a dechrau'r 20g, gyda'r rhan fwyaf o'r gweddill yn cael eu sefydlu mewn gwledydd Saesneg eu hiaith eraill.[4] Cyn 1945, roeddent yn tueddu i ganolbwyntio ar y materion economaidd sy'n gysylltiedig â diwydiannu a threfoli. Yn ystod y Rhyfel Oer, sefydlwyd llawer mwy o felinau meddwl Americanaidd a Gorllewinol eraill, a oedd yn aml yn llywio polisi Rhyfel Oer y llywodraeth.[4][6][5] Ers 1991, mae mwy o felinau trafod wedi'u sefydlu mewn rhannau o'r byd nad ydynt yn Orllewinol. Sefydlwyd mwy na hanner yr holl felinau trafod sy'n bodoli heddiw ar ôl 1980.[7]

Mae'r erthygl hon yn rhestru sefydliadau polisi byd-eang yn ôl categorïau cyfandirol ac yna is-gategorïau fesul gwlad o fewn yr ardaloedd hynny. Nid yw'r rhestrau hyn yn gynhwysfawr; mae o leiaf 11,175 o felinau trafod o gwmpas y byd.[8][9]

Melinau trafod Cymru golygu

 
Uwchgynhadledd ar annibyniaeth a drefnwyd gan gorff y 'Melin Drafod', Abertawe 2023

Prin yw'r melinau trafod Cymreig a hynny, efallai'n adlewyrchiad o ddiffyg grym sydd wedi ei lleoli yng Nghymru a diffyg cyfalaf i dalu am waith ymchwil manwl.

  • Sefydliad Bevan - sefydlwyd 2001 i "gryfhau polisi cyhoeddus ar ôl datganoli." Mabwysiadwyd yr enw er cof am Aneurin Bevan, sylfaenydd y GIG, oherwydd ymrwymiad a rennir i gyfiawnder cymdeithasol, er bod y Sefydliad yn gwbl amhleidiol. [10]
  • Melin Drafod - sefydlwyd yn 2021 sy'n gorff er hyrwyddo syniadaeth ar bolisi i Gymru annibynnol.

Melinau trafod adnabyddus golygu

Ceir melinau trafod ar draws y byd. Efallai mai rhai o'r rhai mwyaf adnabyddus a dylanwadol yw:

Unol Daleithiau golygu

Mae'n debyg mai'r Unol Daleithiau yw'r wladwriaeth lle mae melinau trafod yn cael y dylanwad mwyaf. Rhaid dyfynnu'r Council on Foreign Relations, The Project for the New American Century, Cato Institute, Hoover Institution, Brookings Institution, RAND Corporation neu American Enterprise Institute oherwydd eu pwysigrwydd.

Y Deyrnas Unedig golygu

Mae sefyllfa Prydain yn debyg i un yr UDA o safbwynt melinau trafod dylanwadaol. Mae'r rhai yn cynnwys: Adam Smith Institute (dde); Institute for Public Policy Research (chwith canol); Center for Policy Studies.

Ffrainc golygu

Melinau trafod mwyaf adnabyddus Ffrainc yw: Institut Montaigne; yr Europeaneiddwyr, Fondation Robert Schuman; Fondation Concorde; Institut Targot; arbenigwyr geoeconomaidd, Institut Choiseul; a'r gwrth-globaleiddio Fondation Copernicus.

Ynghlwm â phleidiau gwleidyddol Ffrainc, gwelir Foundation for political innovation with the UMP; Fondation Gabriel Péri gyda phlaid gomiwnyddol PCF; a Fondation Jean-Jaurès gyda'r blais sosialaidd PSF; a Fondation Robert Schuman gyda phlaid dde ganol yr UMP.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Think tank". Termau Cymru. Cyrchwyd 16 Mai 2023.
  2. Fang, Lee (15 September 2021). "Intelligence Contract Funneled to Pro-War Think Tank Establishment". The Intercept (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 October 2021.
  3. McGann, James G.; Weaver, Robert Kent (1 January 2002). Think Tanks and Civil Societies: Catalysts for Ideas and Action (yn Saesneg). Transaction Publishers. t. 51. ISBN 978-1-4128-3989-1.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 Fischer, Frank; Miller, Gerald J. (21 December 2006). "Public Policy Analysis and Think Tanks, by Diane Stone". Handbook of Public Policy Analysis: Theory, Politics, and Methods (yn Saesneg). CRC Press. tt. 149–157. ISBN 978-1-4200-1700-7.
  5. 5.0 5.1 Selee, Andrew Dan (31 July 2013). What Should Think Tanks Do?: A Strategic Guide to Policy Impact (yn Saesneg). Stanford University Press. t. 41. ISBN 978-0-8047-8929-5.
  6. Roberts, Priscilla (1 December 2015). "A century of international affairs think tanks in historical perspective" (yn en). International Journal 70 (4): 535–555. doi:10.1177/0020702015590591. ISSN 0020-7020.
  7. McGann, James. "Think Tanks and the Transnationalization of Foreign Policy". Foreign Policy Research Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 June 2011.
  8. G. McGann, James (22 January 2014). "2013 GLOBAL GO TO THINK TANK INDEX REPORT" (PDF). University of Pennsylvania. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 12 January 2016.
  9. G. McGann, James (28 January 2022). "2020 Global Go To Think Tank Index Report". University of Pennsylvania. Cyrchwyd 28 September 2022.
  10. "About us". Gwefan y Bevan Foundation. Cyrchwyd 16 Mai 2023.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.