Menora

canhwyllyr Iddewig, grefyddol; symbol o Iddewiaeth

Mae menora (Hebraeg: מְנוֹרָה) neu menorah yn ganhwyllyr saith-cangen, a wnaed o aur solet. Roedd yn symbol hynafol ar gyfer yr Israeliaid ac un o'r symbolau hynaf ar gyfer Iddewiaeth yn gyffredinol. Yn ôl rhai o sylwebwyr y Beibl, mae'r menora yn symbol o'r llwyn llosgi a welodd Moses ar Sinai.[1]

Menora
Mathcandelabra, Jewish ceremonial object Edit this on Wikidata
Lleoliady Deml yn Jeriwsalem Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Menora
Menorah yr Ail Deml Iddewig, a ddarlunnir ar Borth Titus yn Rhufain

Mae gan y menorah saith cangen, felly ni ddylid ei gymysgu â'r canwyllyr naw cangen a ddefnyddir yn Hanukkah, a gelwir hefyd yn Gŵyl y Golau.[2]

Y Menorah a'r Tabernacl/Teml Iddewig golygu

Yn ôl y Beibl Hebraeg, rhoddodd Du|w gyfarwyddyd i Moses i wneud canhwyllyr saith cangen a’i osod yn y Tabernacl ar yr ochr ddeheuol (Exodus 25:31-40, 26:35). Yn nheml Solomon, dywedir bod deg menora wedi llosgi, pump o bobtu (1 Brenhinoedd 7:48-49): "Dyma Solomon yn gwneud yr holl bethau yma ar gyfer teml yr ARGLWYDD hefyd: yr allor aur, y bwrdd aur roedden nhw'n gosod y bara cysegredig arno o flaen yr ARGLWYDD, 49 y canwyllbrennau o aur pur wrth y fynedfa i'r gell fewnol gysegredig (pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith). Hefyd roedd y blodau, y lampau a'r gefeiliau wedi'u gwneud o aur."[3]

Mae ymchwil hanesyddol wedi dangos nad oedd y menorah ar ffurf canhwyllbren saith cangen yn wrthrych cwlt eto yn y cyfnod cyn yr Ail Deml. Mae'r stori yn Exodus yn dafluniad etiolegol o'r Ail Deml i'r tabernacl.[4]

Y Menorah a Hanukkah golygu

Yn Saesneg, a gellir dadlau, yn y Gymraeg hefyd, y menora oedd yr enw yn wreiddiol ar y candelabra saith cangen a ddefnyddiwyd mewn addoliad Iddewig. Hanukkiah yn Hebraeg yw'r enw ar y candelabra Hanukkah naw cangen, ond daeth siaradwyr Saesneg i ddefnyddio menorah ar gyfer hyn hefyd. Mae menorah Hanukkah yn cofio diarddeliad gan Jwda Maccabee o luoedd goresgynnol o Deml Jerwsalem. Ceisiodd Maccabee a'i ddilynwyr olew ar gyfer menorah y deml fel y gellid ailgysegru'r cysegr, ond dim ond digon o olew a gawsant am un diwrnod. Yn wyrthiol, bu'r swm bach hwnnw o olew yn llosgi am wyth diwrnod, nes y gellid cael cyflenwad newydd. Mae menorah Hanukkah yn cynnwys cannwyll ar gyfer pob diwrnod yr oedd yr olew yn ei losgi, ynghyd â'r shammes, "cannwyll gwas" a ddefnyddir i oleuo'r lleill.[5]

Symbolaeth golygu

Mae’r Torah yn cael ei gymharu â’r golau a’r mitzvot (gorchmynion) â’r lampau sy’n gwneud y golau’n weladwy (Diarhebion 6:23); "Mae gorchymyn fel lamp, a dysgeidiaeth fel golau,ac mae cerydd a disgyblaeth yn arwain i fywyd."[6] Israel fydd goleuni’r byd (Eseia 60:3). Mae enaid dyn hefyd yn cael ei gynrychioli fel lamp (Diarhebion 20:27; "Mae'r gydwybod fel lamp gan yr ARGLWYDD, yn chwilio'n ddwfn beth sydd yn y galon."[7]

Ar ôl dinistrio'r ail deml yn 70 OC. nid oedd gan y menora bellach unrhyw arwyddocâd defodol yng ngwasanaeth y deml. Cymerwyd y menorah o'r deml yn ysbail rhyfel a'i arddangos yn Rhufain yn y Deml Heddwch. Fodd bynnag, roedd y Menorah yn aml yn cael ei ddarlunio mewn synagogau, beddrodau a phaentiadau. Mae'r menorah saith canghennog o'r deml Iddewig yn cael ei ddarlunio ar fwa buddugoliaethus Titus a daeth yn fodel ar gyfer darlunio'r menorah fel symbol swyddogol o wladwriaeth Israel.

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Robert Lewis Berman, A House of David in the Land of Jesus, p. 18 (Pelican, 2007). ISBN 978-1-58980-720-4
  2. "Hanukkah". Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru. Cyrchwyd 31 Hydref 2022.
  3. "1 Brenhinoedd". Beibl.net. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2022.
  4. Rachel Hachlili (2001): The Menorah, the Ancient Seven-armed Candelabrum: Origin, Form, and Significance. Brill, Leiden, pag. 9: „… the seven-armed menorah does not antedate the Second Temple period“, en pag. 36: „The record in Exodus of the tabernacle menorah is a retrojection of the Second Temple type“.
  5. "Menorah". Geiriadur Merriam-Webster. Cyrchwyd 31 Hydref 2022.
  6. "Diarebion". Beibl.net. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2022.
  7. "Diarhebion". Beibl.net. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2022.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iddewiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.