Menter Iaith Merthyr Tudful

Sefydlwyd Menter Iaith Merthyr Tudful yn 2003. Mae Menter Iaith Merthyr Tudful yn rhan o rwydwaith Mentrau Iaith Cymru. Lleolir y fenter yng Nghanolfan Soar, Merthyr Tudful.[1]

Bwriad y fenter golygu

Prif nod y Fenter yw cynnig cyfleoedd Cymraeg yn y gymuned. Mae'r fenter hefyd yn hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned ac o fewn sefydliadau. Rydym yn cynnal gweithgareddau yn y gymuned ar gyfer Oedolion, Plant, Ieuenctid, Dysgwyr a Theuluoedd yn ogystal â chydweithio yn agos gyda nifer o sefydliadau Cymraeg a di- Gymraeg.[2]

Prosiectau golygu

Dyma rai o brosiectau'r fenter yn 2020 a gytunwyd gyda Llywodraeth Cymru:

  • Datblygu sin cerddroiaeth werin yn yr ardal. Bydd y fenter yn gwneud hyn trwy adeiladu ar lwyddiant Gwyl Werin Hydref ar gynhaliwyd am y tro cyntaf yn 2019. Mae hefyd sesiynau gwerin misol yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Soar.
  • Cynnal cyfres o ddigwyddiadau misol sydd wedi eu hanelu at y nifer fawr o bobl sy'n dysgu Cymraeg yn yr ardal. Enw ar frand y digwyddiadau hyn yw: Clwb Dysgwyr Soar ac mae'r digwyddiadau'n cael eu cynnal mewn cydweithrediad a Dysgu cymraeg.
  • Datblygu theatr Cymraeg yn yr ardal trwy ddod a sioeau a pherfformiadau amrywiol i Theatr soar.
  • Cynnal Clwb Drama Soar gan gynnig clybiau drama lleol i blant o wahanol oedrannau.
  • Gweithio'n agos gyda sefydliadau a mudiadau Saenseg lleol er mwyn eu cefnogi a'u hannog i wella a thyfu eu darpariaeth Gymraeg.
  • Gweithio gyda swyddogion y cyngor sir, sy'n gyfrifol am ganol y dref, trwy sicrhau bod y Gymraeg yn amlwg mewn unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir yng nghanol y dref.

Partneriaid allweddol golygu

Er mwyn cyflawni llawer o'i thargedau, mae'r fenter yn gweithion agos gyda changhennau lleol y mudiadau canlynol:[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Menter iaith ym Merthyr" (yn Saesneg). 2004-01-30. Cyrchwyd 2020-03-10.
  2. "Menter Iaith". Theatr Soar. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-12. Cyrchwyd 2020-03-10.
  3. "Partners | Menter Merthyr Tudful" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-05. Cyrchwyd 2020-03-10.