Mererid Puw Davies

Awdur a bardd o Sir Gaerhirfryn yw Mererid Puw Davies (ganwyd 1970).

Mererid Puw Davies
Ganwyd1970 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, Almaenegwr, gweinyddwr academig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Cafodd Mererid ei magu yn Sir Gaerhirfryn a Chlwyd. Ers hynny mae wedi rhannu ei hamser rhwng Rhydychen a gwahanol diroedd pellennig eraill, yn bennaf yr Almaen. Graddiodd mewn ieithoedd modern ym Mhrifysgol Rhydychen. Gyda'i chwaer Angharad mae Mererid yn gyd-awdur dau lyfr antur aml-ddewis, Trwy Ogof Arthur a Melltith Madog a gyhoeddwyd gan y Lolfa yn 1986 a 1989. Yn ogystal mae'n awdur dwy gyfrol o gerddi. Cyhoeddwyd y gyntaf, Darluniau, a enillodd iddi Fedal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd, yn 1988. Ymddangosodd ei hail gyfrol, Caneuon o Ben Draw'r Byd, yng nghyfres Beirdd Answyddogol y Lolfa yn 1996. Tardda llawer o'r Caneuon o Ben Draw'r Byd o gyfnod hir a dreuliodd Mererid yng Ngogledd Llydaw. 'Penn ar Bed' - Pen Draw'r Byd - yw enw'r ardal honno ac mae'r cerddi'n ymdrin ag argraffiadau ac eiliadau yno. Mae Mererid hefyd wedi cyhoeddi beirniadaeth lenyddol a diwylliannol yn Gymraeg ar gyfer cylchgronau megis Tu Chwith; ac yn Saesneg mae wedi cyhoeddi ar agweddau ar fytholeg a straeon tylwyth teg mewn llenyddiaeth Ewropeaidd gyfoes.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "www.gwales.com - 9780862433864, Cyfres y Beirdd Answyddogol: Caneuon o Ben Draw'r Byd". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-02-10.


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Mererid Puw Davies ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.