Michael Gustavius Payne

Arlunydd Cymreig yw Gustavius Payne (ganwyd Michael Gustavius Payne, 25 Mehefin 1969), sy'n defnyddio symboliaeth celf y gorllewin a mytholeg, ynghyd â phethau cyfoes, i greu paentiadau (paent olew fel rheol) o naws swreal.

Michael Gustavius Payne
Ganwyd25 Mehefin 1969 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.guspayne.com/ Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Payne ym Merthyr Tudful ac fe'i magwyd ar ystad Y Gurnos. Mynychodd Ganolfan Celf Dylunio a Thechnoleg Morgannwg Ganol ym Mhontypridd (rhan o Brifysgol Morgannwg erbyn hyn) rhwng 1991 ac 1993, lle enillodd wobr Myfyriwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol 1993. Yn dilyn hyn fe gynhwysodd rhaglen celf y BBC, The Slate, erthygl amdano yn ei rhaglen Eisteddfod Special yn 1993. Aeth ymlaen i atudio yng Ngholeg Addysg Uwch Cheltenham a Chaerloyw (Prifysgol Swydd Gaerloyw erbyn hyn) hyd 1996, gan ennill gradd Baglor y Celfyddydau dosbarth cyntaf ym maes celfyddyd gain a phaentio. Yn ystod ei gyfnod yn Cheltenham, enillodd Payne le ar raglen ERASMUS a alluogodd ef i ymweld a nifer o safleoedd hynafol mytholegol a hanesyddol yng Ngwlad Groeg fel myfyriwr cyfnewid yn Ysgol Celfyddyd Gain Athen. Enillodd wobr "Art Purchase" y Cheltenham & Gloucester Building Society ym 1996, cyn dychwelyd i Gymru. Symudodd i Gaerdydd i ddechrau, cyn mynd i fyw i Ddowlais ym 1999.

Cydweithiodd Payne yn 2011 - 2012 gyda'r bardd a'r awdur Mike Jenkins ar gyfres o arddangosfeydd ledled Cymru dan y teitl "Dim Gobaith Caneri", gan ddefnyddio idiomau Cymraeg fel ysbrydoliaeth (Cefnogwyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru).[1][2]

Mae'n aelod o'r Grŵp Cymreig ers Ebrill 2013.[3]

Arddangosfeydd golygu

Cyhoeddiad golygu

Gustavius Payne: Celfwaith 2007-2012

Ffynonellau golygu

  • Ellis, Geraint (Cynhyrchydd) (2008), Sioe Gelf, rhaglen 14, Cwmni Da, 05/11/08 ar S4C.
  • Payne, MG (2008), 'Looking For A Hero', Welsh Art Now, Rhifyn 1, tud. 32 - 35.
  • Jones, Huw David (2008), Myths, Folklore & Fairytale explores hopes, truths and desires, Metro.co.uk, (7.8.08).

Dolenni allanol golygu