Mick Bates

gwleidydd

Gwleidydd o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig oedd Mick Bates (24 Medi 194729 Awst 2022)[1]. Roedd e'n Aelod Cynulliad Cymru (AC) dros Sir Drefaldwyn rhwng 1999 a 2011.

Mick Bates
Ganwyd24 Medi 1947 Edit this on Wikidata
Loughborough Edit this on Wikidata
Bu farw29 Awst 2022 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner Lloegr Lloegr
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1af, Aelod o Ail Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelod o 3ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Democratiaid Rhyddfrydol Edit this on Wikidata

Cafodd Bates ei eni yn Loughborough, Lloegr. Bu'n athro ac yn ffarnwr cyn dod yn wleidydd. Roedd yn byw ar ffarm yn ardal Llanfair Caereinion. Bu hefyd yn gynghorydd sir ar Gyngor Sir Powys.[2]

Yn 2002 cafodd ei feirniadu gan y Ceidwadwyr am wisgo gwisg Siôn Corn yn y Senedd i godi arian at elusen.[3]

Yn 2010 fe'i cafwyd yn euog o ymosod ar staff y GIG.[4] Ymddiswyddodd o'r blaid ac ymddeolodd y flwyddyn ganlynol.

Teyrngedau golygu

Dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Jane Dodds: "Roedd Mick yn un o'r bobl mwyaf croesawgar a charedig roeddwn i'n ei adnabod. "Pan gyrhaeddais Y Trallwng am y tro cyntaf, bron i ddeng mlynedd yn ôl, roedd mor hael ei amser gyda mi. Roedd ei wybodaeth am y materion sy'n effeithio ar ei annwyl Sir Drefaldwyn yn ddiddiwedd. Ni fydd Mick Bates arall, byth.[5]

Dywedodd un o gyn-Aelodau Cynulliad y blaid, William Powell, bod Bates yn "hael, caredig ac angerddol, yn ddyn oedd yn glynu wrth ei egwyddorion ac yn gweithio'n wirioneddol galed" i gynrychioli ei etholaeth.

Mynegodd Llywydd Senedd Cymru, Elin Jones, bod "Mick yn un o gymeriadau mawr dyddiau cynnar y Cynulliad. Mi oedd yn bencampwr clodwiw i holl faterion cynaliadwy a chefn gwlad. Ac yn ladmerydd angerddol dros ei annwyl Faldwyn."[5]

Personol golygu

Roedd yn briod â Buddug, a ganddynt ddau blentyn mewn oed, Ruth a Daniel, ei bump o wyrion.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Former Welsh Assembly Member Mick Bates dies after battle with cancer". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 Awst 2022.
  2. {{cite web |url=https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/62636886 |title=Mick Bates: Teyrngedau i'r cyn-Aelod Cynulliad Rhyddfrydol |publisher=BBC Cymru Fyw |date=30 Awst 2022}
  3. "Mick Bates: Former Welsh Liberal Democrat AM dies aged 74". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 Awst 2022.
  4. Helen Duffett (11 Rhagfyr 2010). "Mick Bates AM convicted of public order offences". Liberal Democrat Voice (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 Awst 2022.
  5. 5.0 5.1 5.2 "Mick Bates: Teyrngedau i'r cyn-Aelod Cynulliad Rhyddfrydol". BBC Cymru Fyw. 30 Awst 2022.