Mike Nesmith

sgriptiwr ffilm a aned yn Houston yn 1942

Roedd Robert Michael Nesmith (30 Rhagfyr 194210 Rhagfyr 2021) yn gerddor Americanaidd, sy'n fwyaf adnabyddus fel aelod o'r band pop y Monkees a chyd-seren y cyfres deledu The Monkees (1966–1968). Cyfansoddwr caneuon, dyn busnes, a dyngarwr oedd Nesmith. Ysgrifennodd y caneuon " Different Drum " (wedi'i recordio gan Linda Ronstadt gyda'r Stone Poneys ) a "Listen to the Band".

Mike Nesmith
Ganwyd30 Rhagfyr 1942 Edit this on Wikidata
Houston Edit this on Wikidata
Bu farw10 Rhagfyr 2021 Edit this on Wikidata
Carmel Valley Village Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
  • Thomas Jefferson High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerddor, canwr, nofelydd, sgriptiwr, actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu, gitarydd, cyfansoddwr caneuon, canwr-gyfansoddwr, cynhyrchydd ffilm Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, canu gwlad, Canu gwerin, roc seicedelig, roc poblogaidd Edit this on Wikidata
MamBette Nesmith Graham Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Grammy Edit this on Wikidata

Cafodd Nesmith ei eni yn Houston, Texas, yn fab i Warren a Bette Nesmith (née McMurray). Roedd Bette yn ysgrifenyddes a ddaeth yn fenyw fusnes lwyddiannus ar ôl dyfeisio "Liquid Paper".[1]

Roedd Mike Nesmith yn briod deirgwaith. Ei fab hynaf yw'r cerddor Christian Nesmith. Bu farw yn 78 oed.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Bette Nesmith Graham: Liquid Paper Inventor". Women-inventors.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Ebrill 2012.
  2. Greene, Andy. "Michael Nesmith, Monkees singer-songwriter, dead at 78". Rolling Stone (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2021.