Defnyddir y mesuriad modfedd yn y drefn unedau imperialaidd o fesur. Ceir 36 modfedd mewn llathen a 12 modfedd mewn troedfedd.

Llinyn mesur gan farciau modfeddi

Fe'i defnyddir yn Unol Daleithiau America,[1] Canada a gwledydd Prydain. O 1 Gorffennaf 1959 ymlaen, cafodd y mesur "llathen" ei ddiffinio gan UDA a'r Gymanwlad i fod yn union 0.9144 metr.[2] O ganlyniad, y diffiniad o fodfedd yw 25.4 milimetr.

Y symbol rhyngwladol o'r fodfedd ydy in ac ar adegau defnyddir y symbol dyfynodau: ". Fel y rhan fwyaf o ieithoedd, mae'n bur debyg fod y gair Cymraeg "modfedd" yn tarddu o'r gair "bawd"[3].

Cyfeiriadau golygu

  1. Corpus of Contemporary American English (Brigham Young University, adalwyd Rhagfyr 2011)
  2. Lasater, Brian (31 Ionawr 2008). The Dream of the West, Pt II. Lulu.com. t. 256. ISBN 978-1-4303-1382-3. Cyrchwyd 14 May 2012.
  3. Dulliau Mesur y Cymry

Gweler hefyd golygu

Chwiliwch am modfedd
yn Wiciadur.
  Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.