Moel y Gaer, Llandysilio

(Ailgyfeiriad o Moel y Gaer (Llandysilio))

Bryn a bryngaer yn Sir Ddinbych yw Moel y Gaer. Mae'n gorwedd yn ne-ddwyrain y sir rhwng Moel Morfydd and Moel Gamelin, tua 4.5 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Llangollen, yng nghymuned Llandysilio-yn-Iâl a thua 3 milltir i'r gogledd o bentref bychan Llandysilio ei hun. Mae'n rhan o'r gyfres o fryniau canolig eu huchder a adnabyddir fel Mynydd Llandysilio ac sy'n gorwedd rhwng y ffyrdd A5104 i'r gogledd, yr A542 i'r dwyrain a'r A5 i'r de. Lleoliad: cyfeiriad grid SJ167463 .

Moel y Gaer, Llandysilio
Mathcaer lefal, bryngaer Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.008137°N 3.242852°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ1670546365 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwDE126 Edit this on Wikidata

Bryngaer golygu

Ceir bryngaer 1.1 hectar ar gopa'r bryn[1] sy'n dyddio o Oes yr Haearn. Mae'n cynnwys 0.8 hectar o dir. Amgylchinir y tir hwn gan glawdd hyd at 3.1 metr o uchder gyda mynedfa 20 metr o hyd sy'n troi i mewn trwy'r clawdd. O flaen y clawdd ar ochr y gogledd ceir ffos amddiffynnol. O fewn y gaer ceir safleoedd tua wyth o gytiau ond maent yn anodd i'w gweld oherwydd y grug a llus sy'n eu gorchuddio. Fel yn achos Moel y Gamelin, i'r de, mae rhan o'r gaer wedi cael ei erydu gan gerddwyr a beicwyr.[2]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: DE126.[3] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[4] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[5]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Oriel o luniau golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Coflein[dolen marw]
  2. Helen Burnham, Clwyd and Powys, yn y gyfres A Guide to Ancient and Historic Wales (Cadw/HMSO, 1995), tud. 64.
  3. Cofrestr Cadw.
  4. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  5. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2017-08-21.