Morgan Owen (bardd a llenor)

bardd a llenor o Gymru

Bardd a llenor Cymreig sy'n hanu o Ferthyr Tudful yw Morgan Owen (ganed 13 Ionawr 1994).

moroedd/dŵr (2019)

Ym mis Rhagfyr 2019, enillodd Wobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd am ei gasgliad moroedd/dŵr.[1]

Graddiodd gyda BA Cymraeg o Brifysgol Caerdydd yn 2016,[2] ac MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn 2017, hefyd o Brifysgol Caerdydd, gan ymchwilio i ofodoldeb cerddi Dafydd ap Gwilym mewn perthynas â locus y goedwig.[3]

Barddoniaeth golygu

Mae'n rhan o gynllun 'Awduron wrth eu Gwaith' Gŵyl y Gelli.[4] Fis Hydref 2018, ef oedd un o bedwar bardd a gymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru,[5], ynghyd ag Osian Owen, Caryl Bryn, a Manon Awst; a'r un flwyddyn, ef oedd bardd preswyl Arddangosfa Bensaernïaeth Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018. Mae wedi cyhoeddi gwaith yn O'r Pedwar Gwynt,[6] Barddas, ac Y Stamp, ymysg llefydd eraill. Enillodd Dlws Coffa D Gwyn Evans yn 2017 a 2018,[7] sef tlws a roddir gan y Gymdeithas Gerdd Dafod am y gerdd orau mewn cystadleuaeth i feirdd dan 25 oed. Ym mis Ebrill 2018, dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Gerallt gan Y Gymdeithas Gerdd Dafod i fynychu cwrs cynganeddu dwys yn y Tŷ Newydd; ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn, fe’i comisiynwyd gan y Y Senedd i gyfansoddi cerddi yn ymateb i nodweddion pensaernïol yr adeilad. Fe'i penodwyd yn Fardd y Mis BBC Radio Cymru ar gyfer mis Ionawr 2019.[8]

Lansiwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi, pamffled dan y teitl moroedd/dŵr, yng Ngŵyl Arall, Caernarfon, fis Gorffennaf 2019. Cerddi am foroedd a dyfrffyrdd yw cynnwys y pamffled; ceir yn y casgliad fyfyrio ynghylch y ffin annelwig rhwng afonydd a'r môr, a'r modd y gall aberoedd fod yn gyfrwng i brofiadau dyn. Cyhoeddwyd y pamffled gan Gyhoeddiadau'r Stamp, ac mae'n cynnwys delweddau gan yr artist Timna Cox mewn ymateb i rai o'r cerddi.[9] Enillodd y casgliad hwn wobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd yn Rhagfyr 2019.[10]

Ym mis Awst, 2019, cyhoeddwyd taw ef oedd enillydd Her Gyfieithu Cyfnewidfa Lên Cymru/PEN Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy 2019.[11] Ym mis Medi 2019, enillodd gadair Eisteddfod Cwmystwyth, gyda cherdd yn y wers rydd ar y testun 'Bro'; fis yn ddiweddarach, enillodd gadair Eisteddfod Bancffosfelen a Chrwbin.

Ddiwedd mis Hydref 2019, cyhoeddwyd ei gasgliad hir cyntaf o gerddi, Bedwen ar y lloer, gan Gyhoeddiadau'r Stamp.[12] Mae'r cerddi hyn yn mynd i'r afael â phrofiadau a llefydd ôl-ddiwydiannol, gyda thref enedigol y bardd, Merthyr Tudful, yn ganolog i lawer ohonynt, a theimladau o ymddieithrwch a pherthyn. Maent hefyd yn archwilio coedwigoedd hynafol a mannau dinesig, ucheldiroedd cyn-hanesyddol ac ymylon cymdeithas. Ceir canu natur yn ogystal, a thipyn o bwyslais ar sut mae hanes a phrofiad yn ymwau â gwahanol ofodau.

Ddiwedd mis Chwefror 2020, enillodd gadair Eisteddfod Cymdeithas Ceredigion; ac ym mis Gorffennaf 2020, enillodd gadair cystadleuaeth agored arbennig Cymdeithas Eisteddfodau Cymru a gynhaliwyd yn ystod y pandemig Coronfeirws.

Daeth yn ail yng nghystadleuaeth y Stôl Farddoniaeth yn yr Ŵyl AmGen, sef y gystadleuaeth a gymerodd le'r gadair wedi i Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020 gael ei gohirio.[13]

Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddwyd pamffled o'i gerddi, Ysgall, gan Wasg Pelydr, gyda ffotograffau gan yr artist Catrin Menai.

Rhyddiaith golygu

Mae'n ysgrifwr toreithiog, ac wedi cyhoeddi nifer o ysgrifau ac adolygiadau mewn cyhoeddiadau megis O'r Pedwar Gwynt ac Y Stamp. Ym mis Ionawr, 2020, derbyniodd ysgoloriaeth awdur gan Llenyddiaeth Cymru er mwyn datblygu casgliad o ysgrifau ar themâu amrywiol, gan gynnwys tirwedd a'r amgylchedd, perthyn ac ymddieithriwch, ysgrifennu am natur a'r Gymru ôl-ddiwydiannol.[14]

Ym mis Rhagfyr 2020, hunan-gyhoeddodd bamffled o dair ysgrif fer, Ymgloi, sy'n olrhain profiadau'r cyfnod clo.[15]

Ddechrau 2021, cafodd ei ddewis i fod yn un o breswylwyr y rhaglen lenyddol Ulysses' Shelter a gynhelir gan Literature Across Frontiers.[16]

Ef oedd enillydd cystadleuaeth yr Ysgrif yn Eisteddfod AmGen 2021. Enillodd gystadleuaeth yr Ysgrif hefyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023.

Dramâu golygu

Daeth yn ail agos yng nghystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd yn 2018. Cyhoeddwyd detholiad o'r ddrama honno, 'Y Gweundir', fel atodiad i rifyn Haf 2018 o gylchgrawn Y Stamp.

Cyhoeddiadau golygu

  • Ysgall (pamffled o gerddi) - Gwasg Pelydr - Rhagfyr 2021
  • Ymgloi (pamffled o ysgrifau) - Hunan-gyhoeddedig - Rhagfyr 2020
  • Bedwen ar y lloer (cyfrol o gerddi) - Cyhoeddiadau'r Stamp - Hydref 2019
  • moroedd/dŵr (pamffled o gerddi) - Cyhoeddiadau'r Stamp - Gorffennaf 2019
  • Y Gweundir (detholiad o ddrama) - atodiad i gylchgrawn Y Stamp, Haf 2018

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwobr genedlaethol i fardd o Ferthyr". BBC Cymru Fyw. 2019-12-11. Cyrchwyd 2020-08-01.
  2. Emerita, Yr Athro Sioned Davies Athro. "Dathlu ar Ddiwrnod Graddio'r Ysgol". Prifysgol Caerdydd. Cyrchwyd 2020-08-01.
  3. https://darganfod.llyfrgell.cymru/discovery/fulldisplay?docid=alma99903743102419&context=L&vid=44WHELF_NLW:44WHELF_NLW_NUI_CY&lang=cy&search_scope=In_The_Library&adaptor=Local%20Search%20Engine&tab=In_The_Library&query=any,contains,gofodoldeb&offset=0
  4. https://www.hayfestival.com/writers-at-work/
  5. https://www.literaturewales.org/our-projects/her-100-cerdd/
  6. "O'r Pedwar Gwynt". pedwargwynt.cymru. Cyrchwyd 2020-08-01.
  7. https://www.barddas.cymru/bardd/morgan-owen/
  8. https://www.bbc.co.uk/programmes/p06x0jww
  9. "Cerdd a chyhoeddiad: moroedd/dŵr - Morgan Owen". Cylchgrawn y Stamp. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-15. Cyrchwyd 2019-07-15.
  10. "Gwobr genedlaethol i fardd o Ferthyr". 2019-12-11. Cyrchwyd 2019-12-11.
  11. "Her Gyfieithu 2019: Cyhoeddi'r Enillydd – Wales PEN Cymru". Cyrchwyd 2019-08-09.
  12. "Cyhoeddiad a cherdd: Bedwen ar y Lloer - Morgan Owen". ystamp-1. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-01. Cyrchwyd 2020-08-01.
  13. "Terwyn Tomos yw enillydd Stôl Farddoniaeth Gŵyl AmGen". BBC Cymru Fyw. 2020-07-31. Cyrchwyd 2020-08-01.
  14. "Amrywiaeth o leisiau rhyfeddol". Llenyddiaeth Cymru. Cyrchwyd 2020-08-01.
  15. https://twitter.com/morgowen/status/1331950296172535808
  16. "Announcing the names of Ulysses' Shelter residents for 2021 - Literature Across Frontiers". www.lit-across-frontiers.org. Cyrchwyd 2021-07-27.