Seicolegydd a meddyg Americanaidd oedd Morton Henry Prince (21 Rhagfyr 185431 Awst 1929) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau cynnar at niwroleg a seicoleg annormal.

Morton Prince
Morton Prince ym 1916.
GanwydMorton Henry Prince Edit this on Wikidata
21 Rhagfyr 1854 Edit this on Wikidata
Boston Edit this on Wikidata
Bu farw31 Awst 1929 Edit this on Wikidata
Boston Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Feddygol Harvard Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiciatrydd, niwrolegydd, seicolegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Ganed yn Boston, Massachusetts, Unol Daleithiau America. Darlithiodd ar bwnc niwroleg yn Ysgol Feddygol Harvard (Boston) o 1895 i 1898 ac yn Ysgol Feddygol Coleg Tufts (Medford, Massachusetts) o 1902 i 1912. Wrth ei waith yn feddyg, Prince oedd un o'r rhai cyntaf i ddefnyddio hypnosis i archwilio seicopatholeg ei gleifion ac i'w trin drwy seicotherapi. Prince oedd arloeswr y "niwrogram", sef cofnod niwrolegol o ymddygiad seicolegol y claf, a fe fformiwleiddiodd gysyniad y "cydymwybod".[1]

Sefydlodd y Journal of Abnormal Psychology ym 1906, a bu'n golygu'r cyfnodolyn hwnnw nes 1929. Ymhlith ei lyfrau mae The Dissociation of a Personality (1906) ar bwnc amlbersonoliaeth, The Unconscious (1914), a Clinical Experimental Studies in Personality (1929). Sefydlodd Clinig Seicolegol Harvard ym 1927. Bu farw yn Boston yn 74 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Morton Prince. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Chwefror 2021.